- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
7.—(1) Caiff person awdurdodedig gadarnhau presenoldeb clefyd hysbysadwy ar sail canlyniad prawf mewn labordy neu ganlyniad prawf pecyn profi yn y maes.
(2) Pan fydd presenoldeb clefyd y gwenyn Americanaidd wedi'i gadarnhau mewn cwch—
(a)rhaid i berson awdurdodedig gyflwyno i berchennog neu i'r person sy'n gyfrifol am y cwch hysbysiad yn mynnu fod yn rhaid difa unrhyw wenyn, diliau neu gynhyrchion gwenyn sy'n dod o'r cwch yn unol â'r hysbysiad;
(b)caiff person awdurdodedig gyflwyno i berchennog neu i'r person sy'n gyfrifol am y cwch hysbysiad yn mynnu fod yn rhaid difa neu drin y cwch, malurion o'r cwch ac unrhyw offer neu bethau eraill a allai ledaenu'r clefyd yn unol â'r hysbysiad;
(c)caiff person awdurdodedig gyflwyno i unrhyw berson arall sy'n berchennog neu'n berson sy'n gyfrifol am unrhyw offer neu bethau eraill a allai ledaenu'r clefyd hysbysiad yn mynnu fod yn rhaid eu difa neu eu trin yn unol â'r hysbysiad.
(3) Pan fydd presenoldeb clefyd y gwenyn Ewropeaidd wedi'i gadarnhau mewn cwch—
(a)rhaid i berson awdurdodedig gyflwyno i berchennog neu i'r person sy'n gyfrifol am y cwch hysbysiad yn mynnu fod yn rhaid difa neu drin unrhyw wenyn, diliau neu gynhyrchion gwenyn sy'n dod o'r cwch yn unol â'r hysbysiad;
(b)caiff person awdurdodedig gyflwyno i berchennog neu i'r person sy'n gyfrifol am y cwch hysbysiad yn mynnu fod yn rhaid difa neu drin y cwch, malurion o'r cwch ac unrhyw offer neu bethau eraill a allai ledaenu'r clefyd yn unol â'r hysbysiad;
(c)caiff person awdurdodedig gyflwyno i unrhyw berson arall sy'n berchennog neu'n berson sy'n gyfrifol am unrhyw offer neu bethau eraill a allai ledaenu'r clefyd hysbysiad yn mynnu fod yn rhaid eu difa neu eu trin yn unol â'r hysbysiad.
(4) Os, unwaith y bydd unrhyw driniaeth sy'n ofynnol yn unol â hysbysiad a gyflwynwyd o dan yr erthygl hon wedi ei chyflawni, y bydd person awdurdodedig yn cadarnhau ar sail canlyniad prawf mewn labordy neu ganlyniad prawf pecyn profi yn y maes fod y clefyd hysbysadwy'n parhau'n bresennol, caiff person awdurdodedig gyflwyno hysbysiadau pellach o dan yr erthygl hon.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: