- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
6.—(1) Pan fo gan berson awdurdodedig sail resymol dros amau bod clefyd hysbysadwy neu bla hysbysadwy yn bresennol mewn unrhyw fangre neu gerbyd, rhaid iddi gyflwyno i berchennog neu i'r person sy'n gyfrifol am—
(a)unrhyw gwch, gwenyn, diliau, cynhyrchion gwenyn, falurion cwch neu offer sydd yn y fangre neu'r cerbyd; neu
(b)unrhyw beth arall a allai ledaenu'r clefyd hysbysadwy neu'r pla hysbysadwy sydd yn y fangre neu'r cerbyd,
hysbysiad yn gwahardd eu symud ac yn gwahardd symud unrhyw blâu gwenyn sydd ynddynt neu sy'n effeithio arnynt, heblaw o dan awdurdod trwydded a roddwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol.
(2) Os rhwystrir unrhyw berson awdurdodedig rhag gweithredu ei bwerau i gael mynediad o dan adran 2 o'r Ddeddf, caiff gyflwyno i'r person sy'n ymddangos i'r person awdurdodedig mai ef yw perchennog neu feddiannydd y fangre, neu mai ef yw perchennog neu'r person sy'n gyfrifol am y cerbyd, hysbysiad sy'n gwahardd symud o'r fangre neu'r cerbyd—
(a)unrhyw gwch, gwenyn, diliau, cynhyrchion gwenyn, plâu gwenyn, malurion cwch neu offer; neu
(b)unrhyw beth arall a allai ledaenu clefyd hysbysadwy neu bla hysbysadwy.
(3) Rhaid diddymu hysbysiad a gyflwynwyd yn unol â pharagraff (2) os yw person awdurdodedig yn ddiweddarach yn gallu gweithredu'n ddirwystr ei bwerau i gael mynediad o dan adran 2 o'r Ddeddf yn y fangre neu'r cerbyd.
(4) Yn yr erthygl hon, ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Gwenyn 1980.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: