- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
2.—(1) Yn y Gorchymyn hwn—
mae “cerbyd” (“vehicle”) yn cynnwys unrhyw long, cwch, hofrenfad neu awyren.
ystyr “clefyd hysbysadwy” (“notifiable disease”) yw clefyd y gwenyn Americanaidd neu glefyd y gwenyn Ewropeaidd;
ystyr “cwch” (“hive”) yw unrhyw beth sy'n cynnwys, neu sydd wedi cynnwys ar unrhyw adeg, nythfa o wenyn;
ystyr “Cynulliad Cenedlaethol” (“National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
mae “mangre” (“premises”) yn cynnwys unrhyw fan gydag adeiladau neu heb adeiladau;
ystyr “offer” (“appliances”) yw cynwysyddion neu unrhyw offer arall a ddefnyddir mewn perthynas â chadw neu gludo gwenyn;
ystyr “pecyn profi yn y maes” (“field test kit”) yw pecyn profi symudol a ddefnyddir i'r diben o gadarnhau presenoldeb clefyd heb fod angen anfon samplau i labordy;
ystyr “pla gwenyn” (“bee pest”) yw unrhyw chwilen, gwiddonyn neu organeb debyg a all fod yn niweidiol i wenyn ac sydd ar unrhyw gam yn ei gylchred bywyd;
ystyr “pla hysbysadwy” (“notifiable pest”) yw chwilen fach y cwch (Aethina tumida) neu unrhyw rywogaeth o'r gwiddonyn Tropilaelaps;
(2) Mae hysbysiad o dan y Gorchymyn hwn—
(a)yn gorfod bod mewn ysgrifen;
(b)yn gallu cael ei atal, ei ddiwygio neu ei ddirymu drwy hysbysiad pellach ar unrhyw adeg;
(c)yn gallu bod yn ddarostyngedig i amodau.
(3) Nid yw paragraff (2)(c) yn gymwys mewn perthynas â hysbysiad o dan erthygl 10.
(4) Rhaid i drwydded o dan y Gorchymyn hwn fod mewn ysgrifen, caiff fod yn gyffredinol neu'n benodol, caiff gynnwys amodau a gellir ei hatal, ei diwygio neu ei dirymu drwy hysbysiad ar unrhyw adeg.
(5) Rhaid i drwydded gyffredinol a roddir o dan y Gorchymyn hwn gael ei dwyn i sylw'r personau hynny y mae'n debyg o effeithio arnynt drwy ei chyhoeddi ym mha bapurau newydd neu gyfnodolion bynnag neu ym mha ffordd bynnag arall sy'n ofynnol ym marn y Cynulliad Cenedlaethol.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: