Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd Arolygu Mewnforio) (Cymru) 2006
Enwi, cychwyn a chymhwyso1.
(1)
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd Arolygu Mewnforio) (Cymru) 2006 a deuant i rym ar 1 Chwefror 2006.
(2)
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Dehongli2.
Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “cynnyrch planhigyn” (“plant product”) yw'r ystyr sydd i “plant product” yn Erthygl 2(1)(b) o'r Gyfarwyddeb;
ystyr “gwiriad adnabod” (“identity check”) yw'r ystyr sydd i “identity check” yn erthygl 13a(1)(b)(ii) o'r Gyfarwyddeb;
ystyr “gwiriad dogfennol” (“documentary check”) yw'r ystyr sydd i “documentary check” yn Erthygl 13a(1)(b)(i) o'r Gyfarwyddeb;
ystyr “gwiriad iechyd planhigion” (“plant health check”) yw'r ystyr sydd i “plant health check” yn erthygl 13a(1)(b)(iii) o'r Gyfarwyddeb;
ystyr “llwyth” (“consignment”) yw'r ystyr sydd i “consignment” yn erthygl 2(1)(p) o'r Gyfarwyddeb;
ystyr “planhigyn a fwriedir ar gyfer ei blannu” (“plant intended for planting”) yw'r ystyr sydd i “plant intended for planting” yn erthygl 2(1)(d) o'r Gyfarwyddeb;
ystyr “planhigyn” (“plant”) yw'r ystyr sydd i “plant” yn erthygl 2(1)(a) o'r Gyfarwyddeb; ac
ystyr “trydedd wlad” (“third country”) yw gwlad neu diriogaeth heblaw un o fewn y Gymuned Ewropeaidd.
Llwythi y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddynt3.
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i lwythi o blanhigion, cynhyrchion planhigion a phethau eraill o ddisgrifiad penodedig yng ngholofn gyntaf Atodlen 1 a laniwyd yng Nghymru o drydedd wlad, ac y mae'n ofynnol yn ôl erthygl 13d(1) o'r Gyfarwyddeb i Aelod-wladwriaethau godi ffioedd ffytoiechydol ynglŷn â hwy i gwrdd â'r costau sy'n digwydd oherwydd gwiriadau dogfennol, gwiriadau adnabod a gwiriadau iechyd planhigion.
Ffioedd4.
(1)
Rhaid i fewnforiwr llwyth y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddo dalu'r ffioedd a bennir yn y rheoliad hwn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
(2)
O ran gwiriad iechyd planhigion a wneir ar unrhyw lwyth o blanhigion, cynhyrchion planhigion neu bethau eraill ac eithrio llwyth o blanhigion neu gynhyrchion planhigion y mae paragraff (3) yn gymwys iddo—
(a)
y ffi a bennir yn nhrydedd golofn Atodlen 1 ar gyfer gwiriad a wneir yn ystod oriau gwaith yn ystod y dydd; neu
(b)
y ffi a bennir ym mhedwaredd golofn yr Atodlen honno ar gyfer gwiriad a wneir y tu allan i'r oriau hynny fydd y ffi sy'n daladwy.
(3)
O ran gwiriad iechyd planhigion a wneir, neu y byddai wedi bod yn ofynnol ei wneud heblaw am Erthygl 13a(2) o'r Gyfarwyddeb (sy'n darparu ar gyfer gwneud gwiriadau o'r fath yn llai aml) ar lwyth o unrhyw blanhigion neu o gynhyrchion planhigion a restrir yng ngholofn gyntaf Atodlen 2 ac sy'n tarddu o wlad a restrir yn nhrydedd golofn yr Atodlen honno, y ffi sy'n daladwy, yn unol ag Erthygl 13d(2) o'r Gyfarwyddeb—
(a)
yw'r ffi a bennir ym mhedwaredd golofn Atodlen 2 ar gyfer gwiriad a wneir yn ystod oriau gwaith yn ystod y dydd; a
(b)
yw'r ffi a bennir ym mhumed golofn yr Atodlen honno ar gyfer gwiriad a wneir y tu allan i'r oriau hynny.
(4)
O ran gwiriad dogfennol neu wiriad adnabod a wneir ar unrhyw lwyth y ffi sy'n daladwy yw'r ffi a bennir ar gyfer y gwiriad hwnnw yn nhrydedd golofn Atodlen 3.
ATODLEN 1FFIOEDD AROLYGU MEWNFORIO AR GYFER GWIRIADAU IECHYD PLANHIGION
Planhigyn, cynnyrch planhigyn neu beth arall | Nifer | Ffi (oriau gwaith yn ystod y dydd) | Ffi (oriau gwaith heb fod yn ystod y dydd) |
|---|---|---|---|
Torion, egin blanhigion (ac eithrio deunydd coedwigaeth atgenhedlol), planhigion mefus neu lysiau ifanc | Fesul llwyth | ||
— hyd at 10,000 o nifer | £13.24 | £19.86 | |
— am bob 1,000 o unedau ychwanegol | £0.52 | £0.78 | |
— uchafbris | £105.92 | £158.88 | |
Llwyni, coed (ac eithrio coed Nadolig wedi eu torri), planhigion meithrinfa prennaidd eraill yn cynnwys deunydd coedwigaeth atgenhedlol (ac eithrio had) | Fesul llwyth | ||
— hyd at 1,000 o nifer | £13.24 | £19.86 | |
— am bob 100 o unedau ychwanegol | £0.33 | £0.49 | |
— uchafbris | £105.92 | £158.88 | |
Bylbiau, cormau, rhisomau, cloron (heblaw cloron tatws) y bwriedir eu plannu | Fesul llwyth | ||
— hyd at 200 kg o bwysau | £13.24 | £19.86 | |
— am bob 10 kg ychwanegol | £0.12 | £0.18 | |
— uchafbris | £105.92 | £158.88 | |
Hadau, meinweoedd meithrin | Fesul llwyth | ||
— hyd at 100 kg o bwysau | £5.67 | £8.50 | |
— am bob 10 kg ychwanegol | £0.13 | £0.19 | |
— uchafbris | £105.92 | £158.88 | |
Planhigion eraill y bwriedir eu plannu, ac nas pennir mewn man arall yn yr Atodlen hon | Fesul llwyth | ||
— hyd at 5,000 o nifer | £13.24 | £19.86 | |
— am bob 100 o unedau ychwanegol | £0.13 | £0.19 | |
— uchafbris | £105.92 | £158.88 | |
Blodau wedi eu torri | Fesul llwyth | ||
— hyd at 20,000 o nifer | £13.24 | £19.86 | |
— am bob 1,000 o unedau ychwanegol | £0.10 | £0.15 | |
— uchafbris | £105.92 | £158.88 | |
Canghennau gyda deiliant, rhannau o gonifferau (ac eithrio coed Nadolig sydd wedi eu torri) | Fesul llwyth | ||
— hyd at 100 kg o bwysau | £13.24 | £19.86 | |
— am bob 100 kg ychwanegol | £1.32 | £1.98 | |
— uchafbris | £105.92 | £158.88 | |
Coed Nadolig wedi eu torri | Fesul llwyth | ||
— hyd at 1,000 o nifer | £13.24 | £19.86 | |
— am bob 100 o unedau ychwanegol | £1.32 | £1.98 | |
— uchafbris | £105.92 | £158.88 | |
Dail planhigion, megis perlysiau, sbeisys a llysiau deiliog | Fesul llwyth | ||
— hyd at 100 kg o bwysau | £13.24 | £19.86 | |
— am bob 10 kg ychwanegol | £1.32 | £1.98 | |
— uchafbris | £105.92 | £158.88 | |
Ffrwythau, llysiau (ac eithrio llysiau deiliog) | Fesul llwyth | ||
— hyd at 25,000 kg o bwysau | £13.24 | £19.86 | |
— am bob 1,000 kg ychwanegol | £0.52 | £0.78 | |
Cloron tatws | Fesul lot | ||
— hyd at 25,000 kg o bwysau | £39.72 | £59.58 | |
— am bob 25,000 kg ychwanegol | £39.72 | £59.58 | |
Pridd a chyfrwng tyfiant, rhisgl | Fesul llwyth | ||
— hyd at 25,000 kg o bwysau | £13.24 | £19.86 | |
— am bob 1,000 kg ychwanegol | £0.52 | £0.78 | |
— uchafbris | £105.92 | £158.88 | |
Grawn | Fesul llwyth | ||
— hyd at 25,000 kg o bwysau | £13.24 | £19.86 | |
— am bob 1,000 kg ychwanegol | £0.52 | £0.78 | |
— mwyafswm | £529.60 | £794.40 | |
Planhigion eraill neu gynhyrchion planhigion eraill nas pennir mewn man arall yn yr Atodlen hon, ac eithrio coed coedwigol | Fesul llwyth | £13.24 | £19.86 |
ATODLEN 2FFIOEDD AROLYGU MEWNFORIO GOSTYNGOL AR GYFER GWIRIADAU IECHYD PLANHIGION
Genws | Nifer | Gwlad tarddiad | Ffi (oriau gwaith yn ystod y dydd) | Ffi (oriau gwaith heb fod yn ystod y dydd) |
|---|---|---|---|---|
Blodau wedi eu torri | ||||
Aster | Fesul llwyth | |||
— hyd at 20,000 o nifer | Zimbabwe | £3.31 | £4.96 | |
— am bob 1,000 o unedau ychwanegol | Zimbabwe | £0.02 | £0.03 | |
— uchafbris | Zimbabwe | £26.48 | £39.72 | |
Dianthus | Fesul llwyth | |||
— hyd at 20,000 o nifer | Colombia | £0.40 | £0.60 | |
Ecuador | £1.98 | £2.97 | ||
Moroco, Twrci | £3.31 | £4.96 | ||
— am bob 1,000 o unedau ychwanegol | Colombia | £0.003 | £0.004 | |
Ecuador | £0.01 | £0.015 | ||
Moroco, Twrci | £0.02 | £0.03 | ||
— uchafbris | Colombia | £3.17 | £4.75 | |
Ecuador | £15.88 | £23.82 | ||
Moroco, Twrci | £26.48 | £39.72 | ||
Rosa | Fesul llwyth | |||
— hyd at 20,000 o nifer | Ecuador, Kenya, Uganda, Zimbabwe | £0.66 | £0.99 | |
Colombia | £1.32 | £1.98 | ||
— am bob 1,000 o unedau ychwanegol | Ecuador, Kenya, Uganda, Zimbabwe | £0.005 | £0.007 | |
Colombia | £0.01 | £0.015 | ||
— uchafbris | Ecuador, Kenya, Uganda, Zimbabwe | £5.29 | £7.94 | |
Colombia | £10.59 | £15.89 | ||
Ffrwythau | ||||
Malus | Fesul llwyth | |||
— hyd at 25,000 kg o bwysau | Chile, De Affrica | £1.32 | £1.98 | |
Ariannin, Seland Newydd | £1.98 | £2.97 | ||
Brasil | £3.31 | £4.96 | ||
Tsieina | £6.62 | £9.93 | ||
— am bob 1,000 kg ychwanegol | Chile, De Affrica | £0.05 | £0.07 | |
Ariannin, Seland Newydd | £0.07 | £0.10 | ||
Brasil | £0.13 | £0.19 | ||
Tsieina | £0.26 | £0.39 | ||
Mangifera | Fesul llwyth | |||
— hyd at 25,000 kg o bwysau | Brasil | £1.32 | £1.98 | |
De Affrica | £6.62 | £9.93 | ||
— am bob 1,000 kg ychwanegol | Brasil | £0.05 | £0.07 | |
De Affrica | £0.26 | £0.39 | ||
Prunus | Fesul llwyth | |||
— hyd at 25,000 kg o bwysau | Chile, De Affrica, Twrci | £1.32 | £1.98 | |
Ariannin | £1.98 | £2.97 | ||
— am bob 1,000 kg ychwanegol | Chile, De Affrica, Twrci | £0.05 | £0.07 | |
Ariannin | £0.07 | £0.10 | ||
Pyrus | Fesul llwyth | |||
— hyd at 25,000 kg o bwysau | De Affrica | £1.32 | £1.98 | |
Ariannin | £1.98 | £2.97 | ||
Chile | £3.31 | £4.96 | ||
Tsieina | £6.62 | £9.93 | ||
— am bob 1,000 kg ychwanegol | De Affrica | £0.05 | £0.07 | |
Ariannin | £0.07 | £0.10 | ||
Chile | £0.13 | £0.19 | ||
Tsieina | £0.26 | £0.39 | ||
Citrus | Fesul llwyth | |||
— hyd at 25,000 kg o bwysau | Moroco | £0.66 | £0.99 | |
Twrci | £0.92 | £1.38 | ||
UDA | £1.32 | £1.98 | ||
Israel, Mecsico, Uruguay | £1.98 | £2.97 | ||
— am bob 1,000 kg ychwanegol | Moroco | £0.02 | £0.03 | |
Twrci | £0.03 | £0.04 | ||
UDA | £0.05 | £0.07 | ||
Israel, Mecsico, Uruguay | £0.07 | £0.10 | ||
Os yw cyfanswm unrhyw ffi yn swm o lai na £0.01, ni chynhwysir y swm hwnnw. | ||||
ATODLEN 3FFIOEDD AROLYGU MEWNFORIO AR GYFER GWIRIADAU DOGFENNOL A GWIRIADAU ADNABOD
Dull gwirio | Nifer | Ffi |
|---|---|---|
Gwiriad Dogfennol | Fesul llwyth | £5.29 |
Gwiriad adnabod | Fesul llwyth | |
— hyd at faintioli llwyth tryc, llwyth wagen reilffordd neu lwyth cynhwysydd o faintioli cyffelyb | £5.29 | |
— mwy na'r maintioli uchod | £10.58 |
Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru ac sy'n dod i rym ar 1 Chwefror 2006, yn rhoi effaith i Erthygl 13d o Gyfarwyddeb y Cyngor 2000/29/EC dyddiedig 8 Mai 2000 (OJ Rhif L 169, 10.7.00, t.1), fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2005/15/EC dyddiedig 28 Chwefror 2005 (OJ Rhif L 56, 2.3.2005, t. 12), (“y Gyfarwyddeb”), sy'n ei gwneud yn ofynnol i Aelod-wladwriaethau godi ffioedd i gwrdd â'r costau sy'n digwydd oherwydd gwiriadau dogfennol, gwiriadau adnabod a gwiriadau iechyd planhigion ar fewnforion planhigion, cynhyrchion planhigion a phethau eraill penodol o drydydd gwledydd y darperir ar eu cyfer yn erthygl 13a(1) o'r Gyfarwyddeb.
Mae'n ofynnol i fewnforiwr dalu'r ffi a bennir yn Atodlen 1 ar gyfer gwiriadau iechyd planhigion a wneir, ac eithrio os yw ffioedd archwilio gostyngol ar fewnforion yn gymwys (rheoliad 4(2) a (3)). Mae Atodlen 2 yn pennu'r ffioedd gostyngol sy'n gymwys, pa un a wneir archwiliad ai peidio, o ran gwiriadau iechyd planhigion ar flodau penodol sydd wedi cael eu torri ac ar ffrwythau penodol sy'n tarddu o wledydd a bennir yn yr Atodlen honno (rheoliad 4(3)).
Mae'n ofynnol i fewnforiwr dalu'r ffi a bennir yn Atodlen 3 ar gyfer gwiriadau dogfennol a gwiriadau adnabod (rheoliad 4(4)).
Cafodd Arfarniad Rheoliadol ei baratoi ar gyfer y Rheoliadau hyn. Gellir cael copïau oddi wrth Adran yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.