- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
IECHYD PLANHIGION, CYMRU
Wedi'u gwneud
31 Ionawr 2006
Yn dod i rym
1 Chwefror 2006
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd Arolygu Mewnforio) (Cymru) 2006 a deuant i rym ar 1 Chwefror 2006.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2. Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “y Gyfarwyddeb” (“the Directive”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 2000/29/EC dyddiedig 8 Mai 2000(3), fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2005/15/EC dyddiedig 28 Chwefror 2005(4), ar fesurau gwarchod yn erbyn cyflwyno organeddau sy'n niweidiol i blanhigion neu i gynhyrchion planhigion i'r Gymuned ac yn erbyn eu lledaenu o fewn y Gymuned;
ystyr “cynnyrch planhigyn” (“plant product”) yw'r ystyr sydd i “plant product” yn Erthygl 2(1)(b) o'r Gyfarwyddeb;
ystyr “gwiriad adnabod” (“identity check”) yw'r ystyr sydd i “identity check” yn erthygl 13a(1)(b)(ii) o'r Gyfarwyddeb;
ystyr “gwiriad dogfennol” (“documentary check”) yw'r ystyr sydd i “documentary check” yn Erthygl 13a(1)(b)(i) o'r Gyfarwyddeb;
ystyr “gwiriad iechyd planhigion” (“plant health check”) yw'r ystyr sydd i “plant health check” yn erthygl 13a(1)(b)(iii) o'r Gyfarwyddeb;
ystyr “llwyth” (“consignment”) yw'r ystyr sydd i “consignment” yn erthygl 2(1)(p) o'r Gyfarwyddeb;
ystyr “oriau gwaith yn ystod y dydd” (“daytime working hours”) yw unrhyw amser rhwng 8.30 a.m. a 5.00 p.m. ar unrhyw ddiwrnod ac eithrio dydd Sadwrn, dydd Sul, Dydd Nadolig, Dydd Gwener y Groglith neu ddiwrnod sydd yn wŷl y banc o dan Ddeddf Bancio a Masnachu Ariannol 1971(5) yng Nghymru;
ystyr “planhigyn a fwriedir ar gyfer ei blannu” (“plant intended for planting”) yw'r ystyr sydd i “plant intended for planting” yn erthygl 2(1)(d) o'r Gyfarwyddeb;
ystyr “planhigyn” (“plant”) yw'r ystyr sydd i “plant” yn erthygl 2(1)(a) o'r Gyfarwyddeb; ac
ystyr “trydedd wlad” (“third country”) yw gwlad neu diriogaeth heblaw un o fewn y Gymuned Ewropeaidd.
3. Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i lwythi o blanhigion, cynhyrchion planhigion a phethau eraill o ddisgrifiad penodedig yng ngholofn gyntaf Atodlen 1 a laniwyd yng Nghymru o drydedd wlad, ac y mae'n ofynnol yn ôl erthygl 13d(1) o'r Gyfarwyddeb i Aelod-wladwriaethau godi ffioedd ffytoiechydol ynglŷn â hwy i gwrdd â'r costau sy'n digwydd oherwydd gwiriadau dogfennol, gwiriadau adnabod a gwiriadau iechyd planhigion.
4.—(1) Rhaid i fewnforiwr llwyth y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddo dalu'r ffioedd a bennir yn y rheoliad hwn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
(2) O ran gwiriad iechyd planhigion a wneir ar unrhyw lwyth o blanhigion, cynhyrchion planhigion neu bethau eraill ac eithrio llwyth o blanhigion neu gynhyrchion planhigion y mae paragraff (3) yn gymwys iddo—
(a)y ffi a bennir yn nhrydedd golofn Atodlen 1 ar gyfer gwiriad a wneir yn ystod oriau gwaith yn ystod y dydd; neu
(b)y ffi a bennir ym mhedwaredd golofn yr Atodlen honno ar gyfer gwiriad a wneir y tu allan i'r oriau hynny fydd y ffi sy'n daladwy.
(3) O ran gwiriad iechyd planhigion a wneir, neu y byddai wedi bod yn ofynnol ei wneud heblaw am Erthygl 13a(2) o'r Gyfarwyddeb (sy'n darparu ar gyfer gwneud gwiriadau o'r fath yn llai aml) ar lwyth o unrhyw blanhigion neu o gynhyrchion planhigion a restrir yng ngholofn gyntaf Atodlen 2 ac sy'n tarddu o wlad a restrir yn nhrydedd golofn yr Atodlen honno, y ffi sy'n daladwy, yn unol ag Erthygl 13d(2) o'r Gyfarwyddeb—
(a)yw'r ffi a bennir ym mhedwaredd golofn Atodlen 2 ar gyfer gwiriad a wneir yn ystod oriau gwaith yn ystod y dydd; a
(b)yw'r ffi a bennir ym mhumed golofn yr Atodlen honno ar gyfer gwiriad a wneir y tu allan i'r oriau hynny.
(4) O ran gwiriad dogfennol neu wiriad adnabod a wneir ar unrhyw lwyth y ffi sy'n daladwy yw'r ffi a bennir ar gyfer y gwiriad hwnnw yn nhrydedd golofn Atodlen 3.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(6)
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
31 Ionawr 2006
Rheoliadau 3 a 4(2)
| Planhigyn, cynnyrch planhigyn neu beth arall | Nifer | Ffi (oriau gwaith yn ystod y dydd) | Ffi (oriau gwaith heb fod yn ystod y dydd) |
|---|---|---|---|
| Torion, egin blanhigion (ac eithrio deunydd coedwigaeth atgenhedlol), planhigion mefus neu lysiau ifanc | Fesul llwyth | ||
| — hyd at 10,000 o nifer | £13.24 | £19.86 | |
| — am bob 1,000 o unedau ychwanegol | £0.52 | £0.78 | |
| — uchafbris | £105.92 | £158.88 | |
| Llwyni, coed (ac eithrio coed Nadolig wedi eu torri), planhigion meithrinfa prennaidd eraill yn cynnwys deunydd coedwigaeth atgenhedlol (ac eithrio had) | Fesul llwyth | ||
| — hyd at 1,000 o nifer | £13.24 | £19.86 | |
| — am bob 100 o unedau ychwanegol | £0.33 | £0.49 | |
| — uchafbris | £105.92 | £158.88 | |
| Bylbiau, cormau, rhisomau, cloron (heblaw cloron tatws) y bwriedir eu plannu | Fesul llwyth | ||
| — hyd at 200 kg o bwysau | £13.24 | £19.86 | |
| — am bob 10 kg ychwanegol | £0.12 | £0.18 | |
| — uchafbris | £105.92 | £158.88 | |
| Hadau, meinweoedd meithrin | Fesul llwyth | ||
| — hyd at 100 kg o bwysau | £5.67 | £8.50 | |
| — am bob 10 kg ychwanegol | £0.13 | £0.19 | |
| — uchafbris | £105.92 | £158.88 | |
| Planhigion eraill y bwriedir eu plannu, ac nas pennir mewn man arall yn yr Atodlen hon | Fesul llwyth | ||
| — hyd at 5,000 o nifer | £13.24 | £19.86 | |
| — am bob 100 o unedau ychwanegol | £0.13 | £0.19 | |
| — uchafbris | £105.92 | £158.88 | |
| Blodau wedi eu torri | Fesul llwyth | ||
| — hyd at 20,000 o nifer | £13.24 | £19.86 | |
| — am bob 1,000 o unedau ychwanegol | £0.10 | £0.15 | |
| — uchafbris | £105.92 | £158.88 | |
| Canghennau gyda deiliant, rhannau o gonifferau (ac eithrio coed Nadolig sydd wedi eu torri) | Fesul llwyth | ||
| — hyd at 100 kg o bwysau | £13.24 | £19.86 | |
| — am bob 100 kg ychwanegol | £1.32 | £1.98 | |
| — uchafbris | £105.92 | £158.88 | |
| Coed Nadolig wedi eu torri | Fesul llwyth | ||
| — hyd at 1,000 o nifer | £13.24 | £19.86 | |
| — am bob 100 o unedau ychwanegol | £1.32 | £1.98 | |
| — uchafbris | £105.92 | £158.88 | |
| Dail planhigion, megis perlysiau, sbeisys a llysiau deiliog | Fesul llwyth | ||
| — hyd at 100 kg o bwysau | £13.24 | £19.86 | |
| — am bob 10 kg ychwanegol | £1.32 | £1.98 | |
| — uchafbris | £105.92 | £158.88 | |
| Ffrwythau, llysiau (ac eithrio llysiau deiliog) | Fesul llwyth | ||
| — hyd at 25,000 kg o bwysau | £13.24 | £19.86 | |
| — am bob 1,000 kg ychwanegol | £0.52 | £0.78 | |
| Cloron tatws | Fesul lot | ||
| — hyd at 25,000 kg o bwysau | £39.72 | £59.58 | |
| — am bob 25,000 kg ychwanegol | £39.72 | £59.58 | |
| Pridd a chyfrwng tyfiant, rhisgl | Fesul llwyth | ||
| — hyd at 25,000 kg o bwysau | £13.24 | £19.86 | |
| — am bob 1,000 kg ychwanegol | £0.52 | £0.78 | |
| — uchafbris | £105.92 | £158.88 | |
| Grawn | Fesul llwyth | ||
| — hyd at 25,000 kg o bwysau | £13.24 | £19.86 | |
| — am bob 1,000 kg ychwanegol | £0.52 | £0.78 | |
| — mwyafswm | £529.60 | £794.40 | |
| Planhigion eraill neu gynhyrchion planhigion eraill nas pennir mewn man arall yn yr Atodlen hon, ac eithrio coed coedwigol | Fesul llwyth | £13.24 | £19.86 |
Rheoliad 4(3)
| Genws | Nifer | Gwlad tarddiad | Ffi (oriau gwaith yn ystod y dydd) | Ffi (oriau gwaith heb fod yn ystod y dydd) |
|---|---|---|---|---|
| Os yw cyfanswm unrhyw ffi yn swm o lai na £0.01, ni chynhwysir y swm hwnnw. | ||||
| Blodau wedi eu torri | ||||
| Aster | Fesul llwyth | |||
| — hyd at 20,000 o nifer | Zimbabwe | £3.31 | £4.96 | |
| — am bob 1,000 o unedau ychwanegol | Zimbabwe | £0.02 | £0.03 | |
| — uchafbris | Zimbabwe | £26.48 | £39.72 | |
| Dianthus | Fesul llwyth | |||
| — hyd at 20,000 o nifer | Colombia | £0.40 | £0.60 | |
| Ecuador | £1.98 | £2.97 | ||
| Moroco, Twrci | £3.31 | £4.96 | ||
| — am bob 1,000 o unedau ychwanegol | Colombia | £0.003 | £0.004 | |
| Ecuador | £0.01 | £0.015 | ||
| Moroco, Twrci | £0.02 | £0.03 | ||
| — uchafbris | Colombia | £3.17 | £4.75 | |
| Ecuador | £15.88 | £23.82 | ||
| Moroco, Twrci | £26.48 | £39.72 | ||
| Rosa | Fesul llwyth | |||
| — hyd at 20,000 o nifer | Ecuador, Kenya, Uganda, Zimbabwe | £0.66 | £0.99 | |
| Colombia | £1.32 | £1.98 | ||
| — am bob 1,000 o unedau ychwanegol | Ecuador, Kenya, Uganda, Zimbabwe | £0.005 | £0.007 | |
| Colombia | £0.01 | £0.015 | ||
| — uchafbris | Ecuador, Kenya, Uganda, Zimbabwe | £5.29 | £7.94 | |
| Colombia | £10.59 | £15.89 | ||
| Ffrwythau | ||||
| Malus | Fesul llwyth | |||
| — hyd at 25,000 kg o bwysau | Chile, De Affrica | £1.32 | £1.98 | |
| Ariannin, Seland Newydd | £1.98 | £2.97 | ||
| Brasil | £3.31 | £4.96 | ||
| Tsieina | £6.62 | £9.93 | ||
| — am bob 1,000 kg ychwanegol | Chile, De Affrica | £0.05 | £0.07 | |
| Ariannin, Seland Newydd | £0.07 | £0.10 | ||
| Brasil | £0.13 | £0.19 | ||
| Tsieina | £0.26 | £0.39 | ||
| Mangifera | Fesul llwyth | |||
| — hyd at 25,000 kg o bwysau | Brasil | £1.32 | £1.98 | |
| De Affrica | £6.62 | £9.93 | ||
| — am bob 1,000 kg ychwanegol | Brasil | £0.05 | £0.07 | |
| De Affrica | £0.26 | £0.39 | ||
| Prunus | Fesul llwyth | |||
| — hyd at 25,000 kg o bwysau | Chile, De Affrica, Twrci | £1.32 | £1.98 | |
| Ariannin | £1.98 | £2.97 | ||
| — am bob 1,000 kg ychwanegol | Chile, De Affrica, Twrci | £0.05 | £0.07 | |
| Ariannin | £0.07 | £0.10 | ||
| Pyrus | Fesul llwyth | |||
| — hyd at 25,000 kg o bwysau | De Affrica | £1.32 | £1.98 | |
| Ariannin | £1.98 | £2.97 | ||
| Chile | £3.31 | £4.96 | ||
| Tsieina | £6.62 | £9.93 | ||
| — am bob 1,000 kg ychwanegol | De Affrica | £0.05 | £0.07 | |
| Ariannin | £0.07 | £0.10 | ||
| Chile | £0.13 | £0.19 | ||
| Tsieina | £0.26 | £0.39 | ||
| Citrus | Fesul llwyth | |||
| — hyd at 25,000 kg o bwysau | Moroco | £0.66 | £0.99 | |
| Twrci | £0.92 | £1.38 | ||
| UDA | £1.32 | £1.98 | ||
| Israel, Mecsico, Uruguay | £1.98 | £2.97 | ||
| — am bob 1,000 kg ychwanegol | Moroco | £0.02 | £0.03 | |
| Twrci | £0.03 | £0.04 | ||
| UDA | £0.05 | £0.07 | ||
| Israel, Mecsico, Uruguay | £0.07 | £0.10 | ||
Rheoliad(4)(4)
| Dull gwirio | Nifer | Ffi |
|---|---|---|
| Gwiriad Dogfennol | Fesul llwyth | £5.29 |
| Gwiriad adnabod | Fesul llwyth | |
| — hyd at faintioli llwyth tryc, llwyth wagen reilffordd neu lwyth cynhwysydd o faintioli cyffelyb | £5.29 | |
| — mwy na'r maintioli uchod | £10.58 |
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru ac sy'n dod i rym ar 1 Chwefror 2006, yn rhoi effaith i Erthygl 13d o Gyfarwyddeb y Cyngor 2000/29/EC dyddiedig 8 Mai 2000 (OJ Rhif L 169, 10.7.00, t.1), fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2005/15/EC dyddiedig 28 Chwefror 2005 (OJ Rhif L 56, 2.3.2005, t. 12), (“y Gyfarwyddeb”), sy'n ei gwneud yn ofynnol i Aelod-wladwriaethau godi ffioedd i gwrdd â'r costau sy'n digwydd oherwydd gwiriadau dogfennol, gwiriadau adnabod a gwiriadau iechyd planhigion ar fewnforion planhigion, cynhyrchion planhigion a phethau eraill penodol o drydydd gwledydd y darperir ar eu cyfer yn erthygl 13a(1) o'r Gyfarwyddeb.
Mae'n ofynnol i fewnforiwr dalu'r ffi a bennir yn Atodlen 1 ar gyfer gwiriadau iechyd planhigion a wneir, ac eithrio os yw ffioedd archwilio gostyngol ar fewnforion yn gymwys (rheoliad 4(2) a (3)). Mae Atodlen 2 yn pennu'r ffioedd gostyngol sy'n gymwys, pa un a wneir archwiliad ai peidio, o ran gwiriadau iechyd planhigion ar flodau penodol sydd wedi cael eu torri ac ar ffrwythau penodol sy'n tarddu o wledydd a bennir yn yr Atodlen honno (rheoliad 4(3)).
Mae'n ofynnol i fewnforiwr dalu'r ffi a bennir yn Atodlen 3 ar gyfer gwiriadau dogfennol a gwiriadau adnabod (rheoliad 4(4)).
Cafodd Arfarniad Rheoliadol ei baratoi ar gyfer y Rheoliadau hyn. Gellir cael copïau oddi wrth Adran yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.
OJ Rhif L 169, 10.7.00, t. 1.
OJ Rhif L 56, 2.3.2005, t. 12.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: