2006 Rhif 1705 (Cy.167)
Rheoliadau Byrddau Lleol ar gyfer Diogelu Plant (Cymru) 2006
Wedi'u gwneud
Yn dod i rym
Enwi, cychwyn a chymhwyso1
1
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Byrddau Lleol ar gyfer Diogelu Plant (Cymru) 2006.
2
Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Hydref 2006.
3
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Dehongli2
1
Yn y Rheoliadau hyn—
mae i “aelod” (“member”) yr ystyr a roddir iddo yn rheoliad 6(1);
mae i “adolygiad achos difrifol” (“serious case review”) yr ystyr a roddir iddo yn rheoliad 4;
mae i “adroddiad trosolwg” (“overview report”) yr ystyr a roddir iddo gan reoliad 4(4)(b);
ystyr “ardal” (“area”) yw'r ardal y sefydlwyd Bwrdd ar ei chyfer;
ystyr “awdurdod gwasanaethau plant” (“children’s services authority”), o ran Bwrdd, yw'r awdurdod neu'r awdurdodau a sefydlodd y Bwrdd;
ystyr “Bwrdd” (“Board”) yw naill ai Bwrdd Lleol ar gyfer Diogelu Plant a sefydlwyd ar gyfer ardal awdurdod gwasanaethau plant yng Nghymru neu Fwrdd Lleol ar gyfer Diogelu Plant a sefydlwyd ar gyfer ardaloedd dau neu fwy o awdurdodau gwasanaethau plant yng Nghymru3
ystyr “Cadeirydd” (“Chair”), o ran Bwrdd, yw person sy'n dal swydd gyfredol i weithredu felly o dan reoliad 6;
ystyr “corff cynrychioliadol” (“representative body”) yw corff sydd wedi penodi person i weithredu fel ei gynrychiolydd ar y Bwrdd;
mae i “cyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol” yr ystyr a roddir i “director of social services” yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol 19704;
ystyr “Deddf 2004” (“2004 Act”) yw Deddf Plant 2004;
mae i “niwed” yr ystyr a roddir i “harm” yn adran 31(9) o Ddeddf Plant 19895;
ystyr “nyrs gofrestredig” (“registered nurse”) yw nyrs neu fydwraig sydd wedi'i chofrestru gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth;
ystyr “prif swyddfa” (“principal office”), o ran Bwrdd, yw mangre a ddynodir felly gan y Bwrdd;
ystyr “prif swyddog addysg” (“chief education officer”) yw swyddog a benodir o dan adran 532 o Ddeddf Addysg 19966;
2
Yn y Rheoliadau hyn mae cyfeiriad—
a
at reoliad â Rhif yn gyfeiriad at y rheoliad sy'n dwyn y Rhif hwnnw yn y Rheoliadau hyn;
b
mewn rheoliad at baragraff â Rhif yn gyfeiriad at y paragraff yn y rheoliad hwnnw sy'n dwyn y Rhif hwnnw;
c
mewn paragraff at is-baragraff â Rhif yn gyfeiriad at yr is-baragraff sy'n dwyn y Rhif hwnnw yn y paragraff hwnnw.
Swyddogaethau Bwrdd o ran ei amcan3
1
Mae Bwrdd i gael y swyddogaethau canlynol o ran ei amcan o dan adran 32 o Ddeddf 20047—
a
cymryd camau sydd â'r nod o feithrin perthynas o ymddiriedaeth a dealltwriaeth gilyddol ymhlith y personau neu'r cyrff a gynrychiolir ar y Bwrdd o ran diogelu a hybu lles plant o fewn ardal y Bwrdd;
b
cymryd camau sydd â'r nod o godi ymwybyddiaeth ledled ardal y Bwrdd o'r angen i ddiogelu a hybu lles plant a darparu gwybodaeth am y modd y gellir cyflawni hyn;
c
datblygu polisïau a gweithdrefnau sydd â'r diben o gydlynu yr hyn a wneir gan bob corff cynrychioliadol at ddibenion diogelu a hybu lles plant o fewn ardal y Bwrdd, gan gynnwys polisïau a gweithdrefnau o ran—
i
rhannu gwybodaeth;
ii
camau i'w cymryd pan fo pryderon am ddiogelwch neu les plentyn, gan gynnwys nodi terfynau i ymyriad;
iii
recriwtio a goruchwylio personau sy'n gweithio gyda phlant neu sy'n cael ymwneud â phlant yn rheolaidd;
iv
diogelwch a lles plant a faethir yn breifat.
ch
adolygu effeithiolrwydd y mesurau a gymerwyd gan bob person neu gorff a gynrychiolir ar y Bwrdd i gydlynu yr hyn a wnânt at ddibenion diogelu a hybu lles plant o fewn ardal y Bwrdd a gwneud pa argymhellion bynnag y gwêl yn dda ar gyfer y personau neu'r cyrff hynny yng ngoleuni'r cyfryw adolygiad;
d
gwneud “adolygiadau achos difrifol” yn unol â rheoliad 4;
dd
monitro i ba raddau y mae unrhyw argymhellion a wnaed mewn adolygiad o dan baragraff (ch) neu mewn adolygiad achos difrifol yn cael eu bodloni neu wedi cael eu bodloni;
e
datblygu meini prawf ar gyfer mesur perfformiad awdurdod gwasanaethau plant yn erbyn y cynllun a luniwyd o dan adran 26 o Ddeddf 2004 (cynlluniau plant a phobl ifanc)8, i'r graddau y mae'r cynllun yn ymwneud â diogelu a hybu lles plant yn ardal un o'r awdurdodau;
f
lledaenu gwybodaeth am yr arferion gorau wrth ddiogelu a hybu lles plant ymhlith y cyrff cynrychioliadol a'r personau eraill hynny y mae'r Bwrdd yn barnu eu bod yn briodol;
ff
gwneud ymchwil i ddiogelu a hybu lles plant;
g
adolygu anghenion hyfforddi'r sawl sy'n gweithio yn ardal y Bwrdd gyda'r bwriad o ganfod gweithgareddau hyfforddi a chynorthwyo i ddiogelu a hybu lles plant yn ardal y Bwrdd;
ng
darparu hyfforddiant er mwyn cynorthwyo i ddiogelu a hybu lles plant yn ardal y Bwrdd;
h
cydweithredu â Byrddau eraill (p'un ai yng Nghymru neu yn Lloegr) ac unrhyw gyrff tebyg o'r fath yn yr Alban a Gogledd Iwerddon os bydd y Bwrdd yn ystyried y byddai hynny o fudd cilyddol; ac
i
ceisio cyngor neu wybodaeth os yw'r Bwrdd o'r farn bod hynny'n ddymunol at ddibenion unrhyw un o'r swyddogaethau uchod.
Adolygiadau achos difrifol4
1
Rhaid i Fwrdd gynnal adolygiad (“adolygiad achos difrifol”) yn unol â'r rheoliad hwn yn unrhyw un o'r achosion canlynol os bydd yn wybyddus bod plentyn, o fewn ardal y Bwrdd, yn cael ei gam-drin neu ei esgeuluso, neu os amheuir hynny, ac—
a
bod plentyn wedi marw, neu
b
bod plentyn wedi dioddef anaf a allai roi ei fywyd mewn perygl, neu
c
bod plentyn wedi dioddef nam difrifol a pharhaol i'w iechyd neu i'w ddatblygiad.
2
Caiff Bwrdd gynnal adolygiad achos difrifol yn unol â'r rheoliad hwn os bydd plentyn o fewn ardal y Bwrdd yn dioddef niwed nad yw'n dod o fewn paragraffau 1(a)(b) neu (c).
3
Diben adolygiad achos difrifol yw canfod camau y gellir eu cymryd i rwystro marwolaeth neu niwed o'r tebyg rhag digwydd.
4
Wrth gynnal adolygiad achos difrifol, rhaid i Fwrdd—
a
gofyn i bob corff cynrychioliadol roi i'r Bwrdd adroddiad ysgrifenedig o'i ymwneud â'r plentyn sy'n destun yr adolygiad, onid yw'r Bwrdd o'r farn bod adroddiad o'r fath yn ddiangen yn yr amgylchiadau;
b
ar ôl cael yr adroddiad y cyfeirir ato yn is-baragraff (a), llunio adroddiad ysgrifenedig (y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel “adroddiad trosolwg”)—
i
sy'n canfod y camau sydd i'w cymryd i leihau'r risg o farwolaeth debyg neu niwed tebyg rhag digwydd; a
ii
sy'n argymell erbyn pryd y dylid cyflawni'r camau hynny, ac yn enwi'r personau a ddylai eu cyflawni;
c
llunio crynodeb heb gynnwys enw neb o bob adroddiad trosolwg a sicrhau ei fod ar gael i'w archwilio ym mhrif swyddfa'r Bwrdd.
5
Rhaid i'r Bwrdd roi i Gynulliad Cenedlaethol Cymru—
a
copi o bob adroddiad a ddarperir gan gorff cynrychioladol yn unol â pharagraff (4)(a) uchod;
b
copi o bob crynodeb heb gynnwys enw neb; ac
c
copi o bob adroddiad trosolwg.
6
Rhaid i'r Bwrdd roi i bob cynrychiolydd—
a
copi o bob crynodeb heb gynnwys enw neb; a
b
oni bai bod y Bwrdd yn ei hystyried yn amhriodol, pob adroddiad trosolwg.
Cynrychiolwyr5
1
Rhaid i Fwrdd gynnwys y canlynol yn gynrychiolwyr awdurdod gwasanaethau plant—
a
cyfarwyddwr arweiniol yr awdurdod dros wasanaethau plant a phobl ifanc neu ryw swyddog arall sy'n uniongyrchol atebol i'r cyfarwyddwr ac sydd ar lefel ddigonol o gyfrifoldeb i gynrychioli'r awdurdod yn lle'r cyfarwyddwr;
b
onid—
i
cyfarwyddwr y gwasanaethau cymdeithasol, cyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol yr awdurdod neu ryw swyddog arall sy'n uniongyrchol atebol i'r cyfarwyddwr hwnnw ac sydd ar lefel ddigonol o gyfrifoldeb i gynrychioli'r awdurdod yn lle'r cyfarwyddwr hwnnw;
ii
y prif swyddog addysg, prif swyddog addysg yr awdurdod neu ryw swyddog arall sy'n uniongyrchol atebol i'r prif swyddog addysg ac sydd ar lefel ddigonol o gyfrifoldeb i gynrychioli'r awdurdod yn lle'r prif gyfarwyddwr addysg;
iii
y swyddog a benodwyd gan yr awdurdod yn swyddog â chyfrifoldeb dros gyflawni swyddogaethau'r awdurdod o dan Ran VI neu VII o Ddeddf Tai 19969 neu ryw swyddog arall sy'n uniongyrchol atebol i'r person hwnnw ac sydd ar lefel ddigonol o gyfrifoldeb i gynrychioli'r awdurdod yn ei le;
yw cyfarwyddwr arweiniol yr awdurdod dros wasanaethau plant a phobl ifanc.
2
Rhaid i Fwrdd gynnwys y canlynol fel cynrychiolwyr Partneriaid Bwrdd yr awdurdod gwasanaethau plant—
a
o ran prif swyddog yr heddlu ar gyfer unrhyw ardal heddlu y mae unrhyw ran ohoni yn dod o fewn ardal y Bwrdd, swyddog—
i
sydd o leiaf ar radd Arolygydd; a
ii
y mae'r prif swyddog wedi gosod arno gyfrifoldeb dros ddiogelu a hybu lles plant;
b
o ran bwrdd prawf lleol ar gyfer unrhyw ardal y mae unrhyw ran ohoni yn dod o fewn ardal y Bwrdd, y Prif Swyddog neu ryw swyddog arall sy'n uniongyrchol atebol i'r Prif Swyddog ac sydd ar lefel ddigonol o gyfrifoldeb i gynrychioli'r bwrdd prawf yn lle'r Prif Swyddog;
c
o ran tîm troseddwyr ifanc ar gyfer ardal y mae unrhyw ran ohoni yn dod o fewn ardal y Bwrdd, rheolwr y tîm neu'r dirprwy reolwr;
ch
o ran Bwrdd Iechyd Lleol (“BILl”) ar gyfer ardal y mae unrhyw rhan ohoni yn dod o fewn ardal y Bwrdd—
i
swyddog arweiniol y BILl dros wasanaethau plant a phobl ifanc neu ryw swyddog arall sy'n uniongyrchol atebol i'r swyddog arweiniol ac sydd ar lefel ddigonol o gyfrifoldeb i gynrychioli'r BILl yn lle'r swyddog arweiniol;
ii
ymarferydd meddygol cofrestredig y gosodwyd arno gyfrifoldebau penodedig o ran amddiffyn plant o fewn ardal y BILl; a
iii
nyrs gofrestredig y gosodwyd arni gyfrifoldebau penodedig o ran amddiffyn plant o fewn ardal y BILl;
d
o ran Ymddiriedolaeth GIG sy'n darparu gwasanaethau meddygol yn ardal yr awdurdod, heblaw Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, cyfarwyddwr gweithredol arweiniol yr Ymddiriedolaeth dros wasanaethau plant a phobl ifanc neu ryw swyddog arall sy'n uniongyrchol atebol iddo ac sydd ar lefel ddigonol o gyfrifoldeb i weithredu fel cynrychiolydd yr Ymddiriedolaeth yn lle'r cyfarwyddwr gweithredol arweiniol;
dd
o ran llywodraethwr unrhyw ganolfan hyfforddi ddiogel o fewn ardal y Bwrdd (neu, yn achos canolfan hyfforddi ddiogel a gontractiwyd allan, ei chyfarwyddwr), dirprwy'r llywodraethwr (neu'r cyfarwyddwr) neu unigolyn o radd uwch; ac
e
o ran llywodraethwr unrhyw garchar yn ardal y Bwrdd sydd fel arfer yn cadw plant yn gaeth (neu, yn achos carchar a gontractiwyd allan, ei gyfarwyddwr), dirprwy'r llywodraethwr (neu'r cyfarwyddwr) neu unigolyn o radd uwch.
3
Drwy hyn rhagnodir y cynrychiolwyr ym mharagraff (2) at ddibenion adran 31(2) o Ddeddf 2004.
Gweithdrefn etc.Bwrdd6
1
Rhaid i Fwrdd gynnal rhestr o'r personau hynny sy'n dal swydd gyfredol i gynrychioli person neu gorff ar y Bwrdd (y cyfeirir atynt yn y Rheoliadau hyn fel “aelodau'r” Bwrdd ).
2
Mae Bwrdd i wneud penderfyniadau drwy bleidlais mwyafrif ei aelodau onid yw'r penderfyniad yn un sydd i'w gymryd mewn cysylltiad â swyddogaeth y mae paragraff (4) yn gymwys iddi. Mae gan y Cadeirydd bleidlais fwrw.
3
Caiff Bwrdd benderfynu y gellir cyflawni swyddogaeth benodol i unrhyw raddau penodedig (gan gynnwys y swyddogaeth yn ei chyfanrwydd), ac yn ddarostyngedig i unrhyw amodau penodedig, ar ei ran gan unrhyw un neu fwy o'i aelodau, onid yw'r swyddogaeth yn un y mae paragraff (4) yn gymwys iddi.
4
Mae'r paragraff hwn yn gymwys i swyddogaethau'r Bwrdd o ran datblygu gweithdrefnau i gydlynu gweithgareddau cyrff cynrychioliadol o dan reoliad 3(1)(c).
5
Os bydd paragraff (4) yn gymwys, dim ond gyda phleidlais unfrydol yr aelodau y caniateir cymryd penderfyniad mewn cysylltiad â'r swyddogaeth.
6
Rhaid i Fwrdd drwy benderfyniad mwyafrif benodi un o'i aelodau yn Gadeirydd iddo. Wrth wneud y penderfyniad hwnnw rhaid i'r aelodau roi sylw i'r angen i benodi Cadeirydd sydd ag arbenigedd a safle digonol i hawlio parch y cyrff cynrychioliadol.
7
Daw penodiad y Cadeirydd i ben—
a
os penodwyd ef am gyfnod penodol a bod y cyfnod yn dod i ben;
b
os yw'n ymddiswyddo;
c
os nad yw bellach yn aelod o'r Bwrdd;
ch
os yw'r aelodau drwy benderfyniad y mwyafrif yn penderfynu hynny.
8
Yn ddarostyngedig i'r darpariaethau uchod, mae Bwrdd i benderfynu ei weithdrefnau ei hun.
Swyddogaethau Awdurdodau Gwasanaethau Plant o ran eu Bwrddetc.7
1
Rhaid i awdurdod gwasanaethau plant ddarparu aelod o'i staff i ddarparu gwasanaethau gweinyddol i'r Bwrdd.
2
Mae cofnodion Bwrdd (ar ba ffurf bynnag y maent) i'w trin fel pe baent yn gofnodion yr awdurdod gwasanaethau plant.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 199810
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)