(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
1. Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i eitemau ceramig y bwriedir iddynt ddod i gyffyrddiad â bwyd. Maent yn gosod terfynau ar faint o blwm a chadmiwm a all gael eu trosglwyddo o eitemau o'r fath, ynghyd â gofynion ar gyfer cynnal profion ar drosglwyddo (mudo) o'r fath ac yn ei gwneud yn ofynnol bod tystysgrifau cydymffurfiaeth gydag eitemau ceramig yn y cyfnodau marchnata.
2. Mae'r Rheoliadau hyn yn gweithredu Cyfarwyddeb y Cyngor 84/500/EEC ar gyd-ddynesiad cyfreithiau'r Aelod-wladwriaethau o ran eitemau ceramig y bwriedir iddynt ddod i gyffyrddiad â bwydydd (O.J. L.277 o 20.10.84 t.12) fel y'i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2005/31/EC o ran datganiad o gydymffurfio a meini prawf perfformiad o'r dull dadansoddi ar gyfer eitemau ceramig y bwriedir iddynt ddod i gyffyrddiad â bwydydd (O.J. L.110 o 30.4.05 t.36). Gweithredwyd y Gyfarwyddeb flaenorol gan Reoliadau Nwyddau Ceramig (Diogelwch) 1988 (O.S. 1988/1647) y mae'r Rheoliadau Eitemau Ceramig mewn Cyffyrddiad â Bwyd (Lloegr) 2006 (O.S. 2006/ 1179 ) yn eu dirymu.
3. Yr oedd Rheoliadau 1988 yn gymwys i'r Deyrnas Unedig. Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru. Gwneir Rheoliadau cyfatebol ar gyfer Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban.
4. Mae rheoliad 2 yn diffinio “eitem geramig”. Mae rheoliad 3 ac Atodlen 1 yn gosod terfynau ar y symiau o blwm a chadmiwm y caniateir eu trosglwyddo gan eitem geramig, ac mae Atodlen 2 yn gosod sut y mae'n rhaid cynnal profion ar eitem. Mae rheoliad 4 yn ei gwneud yn ofynnol i ddatganiad o gydymffurfio ysgrifenedig fynd gydag eitem geramig nad yw hyd yn hyn wedi dod i gyffyrddiad â bwyd ym mhob cyfnod marchnata hyd at y cyfnod manwerthu. Gosodir manylion y datganiad yn Atodlen 3. Mae'r Rheoliadau hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i weithgynhyrchydd neu fewnforiwr i'r Gymuned gadw dogfennau priodol sy'n dangos bod eitem neu eitemau yn cydymffurfio â gofynion Atodlen 1.
5. Mae rheoliad 5 yn darparu mai awdurdodau bwyd ac awdurdodau iechyd porthladd fydd yn gorfodi'r Rheoliadau yn eu hardaloedd neu ddosbarthau perthnasol. Mae rheoliad 6 yn gosod y cosbau am fethu â chydymffurfio â'r Rheoliadau a'r amddiffyniadau sydd ar gael. Mae rheoliad 7 yn gosod pa ddarpariaeth o Ddeddf Diogelwch Bwyd sydd yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau.
6. Mae arfarniad rheoliadol llawn wedi'i baratoi ar gyfer y Rheoliadau hyn ac wedi'i roi yn Llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ynghyd â nodyn trosi sy'n ymwneud â'r Rheoliadau hyn. Mae copïau ar gael hefyd oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Southgate House, Caerdydd CF10 1EW.