Rheoliadau Eitemau Ceramig mewn Cyffyrddiad â Bwyd (Cymru) 2006
2006 Rhif 1704 (Cy.166)
BWYD, CYMRU
Rheoliadau Eitemau Ceramig mewn Cyffyrddiad â Bwyd (Cymru) 2006
Wedi'u gwneud
Yn dod i rym
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 16(2), 17(1), 26(1)(a), 26(2)(a) a (3), a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 19901;
Yn unol ag adran 48(4A)2 o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 mae wedi ystyried cyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd ac wedi ymghynghori fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar 28 Ionawr 2002 sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd3.