Mae'r Gorchymyn hwn yn darparu i Gynllun Pensiwn y Dynion Tân, sydd wedi'i nodi yn Atodlen 2 i Orchymyn Cynllun Pensiwn Dynion Tân 1992 ac fel y mae'n effeithiol yng Nghymru (“y Cynllun”), barhau mewn grym yn ddarostyngedig i'r addasiadau a bennir yn y Gorchymyn. Ac eithrio fel y'u crybwyllir isod, mae'r diwygiadau yn effeithiol ers 10 Tachwedd 2004. Mae'r pŵer i beri bod y diwygiadau'n effeithiol yn ôl-syllol wedi'i roi gan adran 12 o Ddeddf Blwydd-dal 1972.
Mae llawer o'r diwygiadau a bennir yn Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn yn ganlyniadol i ddiddymu Deddf y Gwasanaethau Tân 1947 a'i disodli gan Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (“Deddf 2004”). Er enghraifft, mae cyfeiriadau at awdurdodau tân (oni bai eu bod wedi'u cadw at ddibenion trosiannol) wedi'u diwygio i gyfeirio at awdurdodau tân ac achub, ac mae cyfeiriadau at frigadau wedi'u diwygio i gyfeirio at wasanaethau tân ac achub neu, yn ôl y cyd-destun penodol, at awdurdodau tân ac achub.
Dyma'r diwygiadau nad ydynt yn ganlyniadol i Ddeddf 2004:
disodli rheol A13, a oedd yn darparu ar gyfer ymddeol gorfodol yn 55 oed i'r rhai ar radd Swyddog Gorsaf neu'n is, ac yn 60 oed i'r rhai ar radd Swyddog Rhanbarthol Cynorthwyol neu radd uwch â rheol sy'n darparu ar gyfer oedran pensiwn arferol o 55, beth bynnag fo rôl yr unigolyn. Mae'r diwygiad hwn yn effeithiol o 23 Mehefin 2006 ymlaen;
cywiro anghysondeb yn y ffordd y mae rheol B5(4)(b) yn gweithredu, sef rheol a oedd yn caniatáu i unigolyn y cafwyd ei fod yn an-ffit i ddiffodd tanau, ond ei fod yn gallu cyflawni dyletswyddau eraill, ymadael gyda phensiwn gohiriedig cyn cael ei ail-leoli, a gofyn ar unwaith i'r pensiwn hwnnw gael ei dalu'n gynnar ar y sail ei fod yn barhaol an-ffit i ddiffodd tanau. Mae'r diwygiad hwn yn effeithiol o 23 Mehefin 2006 ymlaen;
amnewid rheolau C5 ac C6 i adlewyrchu'r ffaith y gall y priod sy'n goroesi ar ôl i ddiffoddwr tân farw fod yn wraig weddw neu'n ŵr gweddw. Achubwyd ar y cyfle i gywiro gwall yn rheol C5, a oedd yn cyfyngu ar y dyfarniadau a oedd yn daladwy i wragedd gweddw drwy gyfeirio at ddyddiad y briodas. Mae'r cywiriad hwnnw'n dileu'r cyfeiriad at reol C7 (dyfarniad priod os nad oes dyfarniad arall yn daladwy). Mae'r amnewidiadau yn effeithiol ers 1 Mawrth 1992 (sef y dyddiad y daeth y Cynllun i rym);
amnewid rheol E5, sy'n ymwneud â thalu rhodd i briod sy'n goroesi yn lle pensiwn. Mae hen baragraffau (2) a (3), a oedd yn gymwys mewn perthynas â gwragedd gweddw a gwŷr gweddw yn y drefn honno, wedi'u cyfuno, ac mae mân newidiadau drafftio wedi'u gwneud;
mae'r diwygiad i reol G1, sy'n ymwneud â sut mae pensiynau diffoddwyr tân yn cael eu cyfrifo, yn galluogi awdurdodau tân ac achub sydd wedi cyflwyno cynlluniau “aberthu cyflogau”(cynlluniau lle mae cyflogwr yn caniatáu buddion penodol, megis gofal plant, i gyflogeion, yn gyfnewid am ildio rhan o'u cyflog) i gasglu cyfraniadau pensiwn sydd wedi'u seilio ar swm y tâl cyn y gostyngiad ar gyfer yr aberth;
diwygio rheol L4, sy'n atal dyblygu dyfarniadau penodol am anafiadau. Y prif newid o bwys yw atal dyblygu dyfarniadau am anafiadau mewn achosion lle mae'r unigolyn yn cael ei gyflogi fel diffoddwr tân rheolaidd ac fel diffoddwr tân cadw (boed gan yr un awdurdod tân ac achub neu gan awdurdodau tân ac achub gwahanol). Cyflwynir rheolau newydd L4A ac L4B er mwyn ymdrin yn unswydd ag atal dyblygu yn yr achosion hyn. Gwneir diwygiadau canlyniadol i reolau A9 (anaf cymwys) ac L1 (yr awdurdodau sy'n gyfrifol am dalu dyfarniadau), ac i Ran V o Atodlen 2 i'r Cynllun (addasiadau lle mae dau awdurdod tân ac achub yn gyfrifol am daliadau pensiwn);
diwygio'r diffiniad o “independent qualified medical practitioner”yn Rhan I o Atodlen 1 i'r Cynllun, er mwyn adlewyrchu newid yn ystyr “a competent authority” sydd wedi'i beri gan Orchymyn Ymarfer Meddygol Cyffredinol ac Arbenigol (Addysg, Hyfforddiant a Chymwysterau) 2003 (O.S. 2003/1250, a ddiwygiwyd gan O.S. 2004/1947). Mae'r diwygiad hwn yn effeithiol ers 13 Medi 2004;
amnewid Rhan IV o Atodlen 3, sy'n adlewyrchu amnewid rheol C5;
cywiro gwall ym mharagraff 4(a) o Ran II o Atodlen 6 i'r Cynllun; rhoddir “annual pensionable pay”yn lle “average pensionable pay”. Mae'r diwygiad hwn yn effeithiol ers 13 Medi 2004; ac
diwygio cyfeiriadau at aelodau o frigadau yn ôl eu gradd drwy gyfeirio at gyflogeion awdurdodau tân ac achub yn ôl eu rôl. Mae'r diwygiadau hyn yn adlewyrchu strwythur graddio newydd a gyflwynwyd gan Reoliadau Penodiadau a Dyrchafiadau'r Gwasanaeth Tân 2004 (O.S. 2004/481).
Mae'r diwygiadau a bennir yn Atodlen 2 i'r Gorchymyn hwn yn ganlyniadol i Ddeddf Partneriaeth Sifil 2004. Mae'r diwygiadau'n galluogi partneriaid sifil i gymhwyso i gael buddion goroeswyr o dan y Cynllun ar yr un sail â phriod ac maent yn effeithiol ers 5 Rhagfyr 2005.
Mae arfarniad rheoliadol am yr effaith y bydd y Gorchymyn hwn yn ei gael ar gostau busnes wedi ei baratoi ac mae ar gael oddi wrth Y Gangen Gwasanathau Tân ac Achub, Adran Cyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, CF10 3NQ; ffôn: 02920 823905; e-bost: alison.thomas@wales.gsi.gov.uk.