(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru, yn darparu swm yr iawndal sydd yn daladwy pan fo'r Cynulliad Cenedlaethol yn peri cigydda anifail buchol o dan Atodlen 3 o Reoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Cymru) 2006.

Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu mai swm yr iawndal sydd yn daladwy ar gigydda anifail buchol yw y pris cyfartalog a dalwyd ym Mhrydain Fawr ar gyfer oed a chategori yr anifail yn y chwe mis blaenorol yn achos anifail pedigri, ac ar gyfer unrhyw anifail buchol arall yn y mis blaenorol.

Yr iawndal ar gyfer Byffalo a Buail yw pris y farchnad.

Mae arfarniad rheoliadol wedi ei baratoi ac wedi ei roi yn llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gellir cael copïau gan yr Adran Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.