xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu pŵer mynediad i arolygwyr i ymgymryd â'r samplu sy'n ofynnol o dan Benderfyniad y Comisiwn 2005/636/EC (ynghylch cyfraniad ariannol gan y Gymuned at arolwg gwaelodlin o ba mor gyffredin y mae Salmonela spp. mewn heidiau o frwyliaid Gallus gallus ac mae hwnnw'n arolwg sydd i'w gynnal yn yr Aelod-wladwriaethau) i ddarganfod pa mor gyffredin y mae Salmonela spp. mewn brwyliaid. Mae rheoliad 3 yn darparu bod y Cynulliad Cenedlaethol yn gyfrifol am ddethol daliadau i'w samplu at ddibenion Penderfyniad y Comisiwn. Mae Rheoliad 4 yn darparu bod rhaid i feddiannydd daliad neu'r person sydd â gofal dros ddaliad roi gwybodaeth, os gofynnir iddo wneud hynny, i'r Cynulliad Cenedlaethol er mwyn cynorthwyo'r Cynulliad Cenedlaethol i ddethol y daliadau sydd i'w cynnwys yn yr arolwg. Mae rheoliad 5 yn darparu pwerau amrywiol i arolygwyr, gan gynnwys pŵer mynediad a phŵer i gymryd samplau o ddeunydd ysgarthol, i archwilio cofnodion ac i holi unrhyw berson. Mae rheoliad 6 yn creu tramgwyddau am rwystro arolygydd rhag arfer ei bwerau o dan y Rheoliadau hyn ac mae rheoliad 7 yn nodi'r gosb sy'n gymwys. Mae rheoliad 8 yn gwneud darpariaethau o ran tramgwyddau gan gyrff corfforaethol. Mae rheoliad 9 yn darparu y gall y Rheoliadau hyn gael eu gorfodi gan yr awdurdod lleol.

Mae arfarniad rheoliadol am yr effaith a gaiff yr offeryn hwn ar gostau busnes wedi'i baratoi a gellir cael copïau gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.