ATODLEN 1Amodau perthnasol i gofrestriadau gwerthwyr pysgod

Erthygl 3

1

Rhaid hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol am unrhyw newidiadau i'r wybodaeth sydd wedi ei chynnwys yn y cais i gofrestru o fewn 28 diwrnod ar ôl i'r newid digwydd.

2

Rhaid cyflwyno nodiadau gwerthiant yn unol â darpariaethau Erthygl 9.

ATODLEN 2Amodau perthnasol i ddynodiadau safleoedd arwerthu

Erthygl 6

1

Rhaid cynnal arwerthiannau ar yr adegau a hysbyswyd i'r Cynulliad Cenedlaethol ac ar yr amod yr hysbysir swyddog pysgodfeydd môr Prydain am unrhyw amrywiad, a'i fod yn gymeradwy.

2

Rhaid hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol am unrhyw newidiadau i'r wybodaeth sydd wedi'i chynnwys yn y cais i ddynodi o fewn 28 diwrnod ar ôl i'r newid ddigwydd.

ATODLEN 3Amodau perthnasol i gofrestriadau prynwyr pysgod

Erthygl 7

1

Rhaid hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol am unrhyw newidiadau i'r wybodaeth sydd wedi ei chynnwys yn y cais i gofrestru o fewn 28 diwrnod ar ôl i'r newid digwydd.

2

Rhaid cyflwyno nodiadau gwerthiant yn unol ag Erthygl 22(2) o'r Rheoliad Cyngor (EC) 2371/2002.