Cadw cofnodion gan brynwr pysgod cofrestredig9

1

Rhaid i brynwr pysgod cofrestredig gadw cofnodion pob pryniant pysgod gwerthiant cyntaf a wneir ganddo ynghyd â'u darparu i'w harchwilio.

2

Rhaid i'r cofnodion y cyfeirir atynt yn y rheoliad hwn gynnwys yr holl wybodaeth a ganlyn parthed pob pryniant unigol–

a

dyddiad a lleoliad y pryniant;

b

nifer pob rhywogaeth a brynwyd;

c

y pris a dalwyd am bob rhywogaeth a brynwyd;

ch

enw a PLN y cwch a laniodd y pysgod;

d

enw, cyfeiriad a Rhif cofrestru'r gwerthwr pan fo ar gael;

dd

Rhif cyfeirnod yr anfoneb neu'r contract gwerthu.

3

Rhaid i brynwr pysgod cofrestredig gadw cofnodion pob gwerthiant fel sy'n ofynnol gan y rheoliad hwn yn y man a hysbyswyd i'r Cynulliad Cenedlaethol hyd ddiwedd yr ail flwyddyn galendr yn dilyn y gwerthiant hwnnw.

4

Rhaid i brynwr pysgod cofrestredig drefnu fod cofnodion pryniant pysgod ar gael i'w harchwilio ar bob adeg resymol yn y man a hysbyswyd i'r Cynulliad Cenedlaethol.

5

Rhaid i brynwr pysgod cofrestredig nad yw ei fusnes yn gweithredu o'r DU ac nad yw wedi'i sefydlu yno–

a

un ai–

i

enwi lle yn y DU lle bydd y cofnodion ar gael i'r Cynulliad Cenedlaethol hyd ddiwedd yr ail flwyddyn galendr ar ôl y pryniant; neu

ii

gyflwyno'r cofnodion bob blwyddyn o'r dyddiad cofrestru; a

b

chyflwyno'r cofnodion o fewn 28 diwrnod ar ôl derbyn cais gan y Cynulliad Cenedlaethol.

6

Rhaid i brynwr pysgod cofrestredig nad yw ei fusnes yn gweithredu o'r DU gadw cofnodion pob pryniant fel sy'n orfodol gan y rheoliad hwn hyd ddiwedd yr ail flwyddyn galendr yn dilyn y pryniant hwnnw.

7

Mae prynwr pysgod cofrestredig nad yw'n cadw'r cofnodion neu'n trefnu iddynt fod ar gael fel sy'n ofynnol gan y rheoliad hwn yn euog o drosedd.