Prynu pysgod gan brynwr anghofrestredig8
1
Bydd unrhyw berson sy'n prynu pysgod yn groes i Erthygl 22(2)(b) o'r Rheoliad CFP, o'i darllen gydag is-baragraff olaf Erthygl 22(2), yn euog o drosedd.
2
Bydd unrhyw berson sydd–
a
yn prynu pysgod ac a fyddai oni bai am is-baragraff olaf Erthygl 22(2) yn euog o drosedd o dan baragraff (1); ac
b
ar y dydd y mae'r person hwnnw'n prynu'r pysgod yn prynu cyfanswm o dros 25 kilogram o bysgod,
yn euog o drosedd.
3
Bydd unrhyw berson sy'n prynu pysgod gwerthiant cyntaf gan unrhyw un heblaw gwerthwr pysgod cofrestredig ac yntau heb fod yn brynwr pysgod cofrestredig, yn euog o drosedd.
4
Nid yw person yn euog o drosedd o dan baragraff (3) os–
a
nad yw'r person hwnnw'n prynu mwy na 25 kilogram o bysgod ar y diwrnod dan sylw; ac
b
mae'r person hwnnw'n gallu'n dangos mai ar gyfer treuliant preifat y mae'r holl bysgod a brynwyd ar y diwrnod hwnnw.