Cadw cofnodion gan werthwr pysgod cofrestredig5
1
Rhaid i werthwr pysgod cofrestredig gadw cofnodion, pob gwerthiant pysgod gwerthiant cyntaf a wneir gan y gwerthwr pysgod cofrestredig mewn man a hysbysir i'r Cynulliad Cenedlaethol yn unol â'r Rheoliadau hyn.
2
Rhaid i'r cofnodion y cyfeirir atynt yn y rheoliad hwn gynnwys yr holl wybodaeth a ganlyn ar gyfer pob gwerthiant–
a
dyddiad a lleoliad y gwerthiant;
b
nifer pob rhywogaeth a werthwyd;
c
y pris a dalwyd am bob rhywogaeth a werthwyd;
ch
enw a PLN y cwch a laniodd y pysgod;
d
enw, cyfeiriad a Rhif cofrestru'r prynwr pan fo ar gael;
dd
Rhif cyfeirnod yr anfoneb neu'r contract gwerthu.
3
Rhaid i werthwr pysgod cofrestredig gadw cofnodion pob gwerthiant fel sy'n ofynnol gan y rheoliad hwn hyd ddiwedd yr ail flwyddyn galendr yn dilyn y gwerthiant hwnnw.
4
Rhaid i werthwr pysgod cofrestredig sicrhau fod y cofnodion gwerthiant pysgod ar gael i'w harchwilio ar bob adeg resymol yn y man a hysbyswyd i'r Cynulliad Cenedlaethol.
5
Rhaid i werthwr pysgod cofrestredig nad yw ei fusnes yn gweithredu o'r Deyrnas Unedig neu nad yw wedi'i sefydlu yno–
a
un ai–
i
enwi man yn y Deyrnas Unedig lle bydd y cofnodion ar gael i'r Cynulliad Cenedlaethol hyd ddiwedd yr ail flwyddyn galendr yn dilyn y gwerthiant y mae a wnelo'r cofnodion ag ef; neu
ii
gyflwyno'r cofnodion yn flynyddol o'r dyddiad cofrestru; a
b
chyflwyno'r cofnodion o fewn 28 diwrnod ar ôl derbyn cais gan y Cynulliad Cenedlaethol.
6
Rhaid i werthwr pysgod cofrestredig nad yw ei fusnes yn gweithredu o'r Deyrnas Unedig neu nad yw wedi'i sefydlu yno gadw cofnodion pob gwerthiant fel sy'n ofynnol gan y rheoliad hwn hyd ddiwedd yr ail flwyddyn galendr yn dilyn y gwerthiant hwnnw.
7
Mae gwerthwr pysgod cofrestredig nad yw'n cadw'r cofnodion neu'n trefnu iddynt fod ar gael fel sy'n ofynnol gan y rheoliad hwn yn euog o drosedd.