Cofrestru gwerthwyr pysgod3

1

Mae gwerthwr pysgod cofrestredig wedi'i awdurdodi at ddibenion Erthygl 9, i'r graddau y bo'r person hwnnw'n gwerthu pysgod gwerthiant cyntaf drwy unrhyw fath o fidio cystadleuol mewn safle arwerthu dynodedig un ai ar ei ran ei hun neu fel asiant y gwerthwr,

2

Caiff unrhyw berson wneud cais i'r Cynulliad Cenedlaethol i'w gofrestru'n werthwr pysgod, gan ddefnyddio ffurflen o'r math a ragnodir gan y Cynulliad Cenedlaethol.

3

Rhaid i'r sawl sy'n gwneud cais i gofrestru'n werthwr pysgod gynnwys datganiad gyda'r cais yn nodi'r cyfleusterau a'r dulliau gweithredu arfaethedig y mae'n fwriad gan yr ymgeisydd eu defnyddio a'r man lle mae'r ymgeisydd yn bwriadu cadw'r cofnodion gwerthu pysgod gwerthiant cyntaf.

4

Wrth ystyried cais i gofrestru rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol ystyried a yw'r datganiad ynglŷn â'r cyfleusterau a dulliau gweithredu arfaethedig yr ymgeisydd, a'r man ble mae'r ymgeisydd yn bwriadu cadw'r cofnodion gwerthu pysgod gwerthiant cyntaf yn gyfryw ag y byddant o gymorth i'r ymgeisydd gydymffurfio ag Erthygl 9, Erthygl 22 o'r Rheoliad CFP a'r Rheoliadau hyn.

5

Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol hysbysu ymgeisydd yn ysgrifenedig o'i benderfyniad ynglŷn â chais a wnaed iddo'n unol â'r rheoliad hwn.

6

Pan fo'r Cynulliad Cenedlaethol yn caniatáu cofrestriad bydd yn ddarostyngedig i Atodlen 1 a rhaid iddo bennu'r amodau a restrir ynddi.

7

Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol gyhoeddi rhestr o werthwyr pysgod cofrestredig yn y fath fodd ag y gwêl yn dda.

8

Gellir atal cofrestriad gwerthwr pysgod lle bo'r gwerthwr pysgod, ym marn y Cynulliad Cenedlaethol, heb–

a

gydymffurfio ag un o amodau cofrestru; neu,

b

gydymffurfio ag un o ofynion Erthygl 9, Erthygl 22 o'r Rheoliad CFP neu'r Rheoliadau hyn.

9

Mae unrhyw berson sy'n gwneud datganiad ffug yn ymwybodol neu'n fyrbwyll at ddibenion cais o dan y rheoliad hwn yn euog o drosedd.

10

Mae unrhyw werthwr pysgod cofrestredig sy'n gwerthu pysgod gwerthiant cyntaf yn groes i un o amodau cofrestru'n euog o drosedd.