Dehongli2

1

Yn y Rheoliadau hyn–

  • ystyr “cwch pysgota trwyddedig” (“licensed fishing vessel”) yw cwch pysgota y rhoddwyd trwydded iddo o dan adran 4 o Ddeddf (Cadwraeth) Pysgod Môr 19673 neu ddarpariaethau cyffelyb yn ymwneud â physgodfeydd gan Aelod-Wladwriaeth arall neu gan yr awdurdodau priodol yn Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw neu wlad arall;

  • ystyr “Cynulliad Cenedlaethol” (“National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

  • ystyr “darpariaethau cywerth” (“equivalent provisions”) yw unrhyw ddarpariaeth yn unrhyw reoliadau eraill a wnaed o dan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 at ddibenion gweithredu Erthygl 9, neu Erthygl 22 o'r Rheoliad CFP, yn ymestyn i unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig, y mae ei heffaith yn gyfwerth ag unrhyw ddarpariaeth yn y Rheoliadau hyn;

  • mae “dogfen” (“document”) yn cynnwys gwybodaeth a gofnodwyd mewn unrhyw ffurf;

  • ystyr “Erthygl 9” (“Article 9”) yw Erthygl 9 Rheoliad Cyngor (EEC) Rhif 2847/93 yn sefydlu system reoli sy'n gymwys i'r Polisi Pysgodfeydd Cyffredin 4 fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad Cyngor (EC) Rhif 768/20055;

  • ystyr “gwerthwr pysgod cofrestredig” (“registered fish seller”) yw person a gofrestrwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol yn unol â rheoliad 3;

  • ystyr “PLN” (“PLN”) yw Rhif porthladd cwch o fewn ystyr rheoliad 31 Rheoliadau Llongau Masnach (Cofrestru Llongau) 19936;

  • ystyr “prynwr pysgod cofrestredig” (“registered fish buyer”) yw person a gofrestrwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol yn unol â rheoliad 7;

  • ystyr “pysgod” (“fish”) yw cynnyrch pysgodfeydd a gaiff eu glanio o gwch pysgota y mae Erthygl 9 neu Erthygl 22 o'r Rheoliad CFP yn berthnasol iddo;

  • ystyr “pysgod gwerthiant cyntaf” (“first sale fish”) yw pysgod sy'n cael eu marchnata am y tro cyntaf; ac

  • ystyr “y Rheoliad CFP” (“the CFP Regulation”) yw Rheoliad Cyngor 2371/2002 ar warchod a datblygu adnoddau pysgodfeydd yn gynaliadwy o dan y Polisi Pysgodfeydd Cyffredin 7.

2

Yn y Rheoliadau hyn, bydd unrhyw gyfeiriad at unrhyw werthwr pysgod yn cynnwys–

a

asiant sy'n gwerthu pysgod ar ran y gwerthwr; a,

b

masnachwr mewn arwerthiant.

3

Mae i'r ymadroddion a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn, nad ydynt wedi'i diffinio ym mharagraffau (1) na (2) uchod ac sy'n ymddangos yn y Rheoliad CFP neu Erthygl 9, yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn ag sydd ganddynt at ddibenion y Rheoliad CFP neu Erthygl 9.