- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn–
ystyr “cwch pysgota trwyddedig” (“licensed fishing vessel”) yw cwch pysgota y rhoddwyd trwydded iddo o dan adran 4 o Ddeddf (Cadwraeth) Pysgod Môr 1967(1) neu ddarpariaethau cyffelyb yn ymwneud â physgodfeydd gan Aelod-Wladwriaeth arall neu gan yr awdurdodau priodol yn Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw neu wlad arall;
ystyr “Cynulliad Cenedlaethol” (“National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
ystyr “darpariaethau cywerth” (“equivalent provisions”) yw unrhyw ddarpariaeth yn unrhyw reoliadau eraill a wnaed o dan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 at ddibenion gweithredu Erthygl 9, neu Erthygl 22 o'r Rheoliad CFP, yn ymestyn i unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig, y mae ei heffaith yn gyfwerth ag unrhyw ddarpariaeth yn y Rheoliadau hyn;
mae “dogfen” (“document”) yn cynnwys gwybodaeth a gofnodwyd mewn unrhyw ffurf;
ystyr “Erthygl 9” (“Article 9”) yw Erthygl 9 Rheoliad Cyngor (EEC) Rhif 2847/93 yn sefydlu system reoli sy'n gymwys i'r Polisi Pysgodfeydd Cyffredin (2) fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad Cyngor (EC) Rhif 768/2005(3);
ystyr “gwerthwr pysgod cofrestredig” (“registered fish seller”) yw person a gofrestrwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol yn unol â rheoliad 3;
ystyr “PLN” (“PLN”) yw Rhif porthladd cwch o fewn ystyr rheoliad 31 Rheoliadau Llongau Masnach (Cofrestru Llongau) 1993(4);
ystyr “prynwr pysgod cofrestredig” (“registered fish buyer”) yw person a gofrestrwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol yn unol â rheoliad 7;
ystyr “pysgod” (“fish”) yw cynnyrch pysgodfeydd a gaiff eu glanio o gwch pysgota y mae Erthygl 9 neu Erthygl 22 o'r Rheoliad CFP yn berthnasol iddo;
ystyr “pysgod gwerthiant cyntaf” (“first sale fish”) yw pysgod sy'n cael eu marchnata am y tro cyntaf; ac
ystyr “y Rheoliad CFP” (“the CFP Regulation”) yw Rheoliad Cyngor 2371/2002 ar warchod a datblygu adnoddau pysgodfeydd yn gynaliadwy o dan y Polisi Pysgodfeydd Cyffredin (5).
(2) Yn y Rheoliadau hyn, bydd unrhyw gyfeiriad at unrhyw werthwr pysgod yn cynnwys–
(a)asiant sy'n gwerthu pysgod ar ran y gwerthwr; a,
(b)masnachwr mewn arwerthiant.
(3) Mae i'r ymadroddion a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn, nad ydynt wedi'i diffinio ym mharagraffau (1) na (2) uchod ac sy'n ymddangos yn y Rheoliad CFP neu Erthygl 9, yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn ag sydd ganddynt at ddibenion y Rheoliad CFP neu Erthygl 9.
OJ Rhif L261, 20.10.1993, t.1.
OJ Rhif L128, 21.05.2005, t.1.
O.S. 1993/3138; yr offeryn diwygio perthnasol yw 1999/3206.
OJ Rhif L358, 31.12.2002, t.59.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: