Rhwystro swyddogion17

1

Mae unrhyw berson–

a

nad yw'n cydymffurfio heb reswm digonol ag unrhyw ofyniad a orfodir gan swyddog pysgodfeydd môr Prydain o dan bwerau a gyflwynir i swyddogion pysgodfeydd môr Prydain gan reoliadau 13, 14 a 15 o'r Rheoliadau hyn;

b

heb reswm digonol yn rhwystro neu'n ceisio rhwystro unrhyw berson arall rhag cydymffurfio gydag unrhyw ofyniad o'r fath; neu

c

sy'n ymosod ar unrhyw swyddog sy'n arfer unrhyw rai o'r pwerau a gyflwynwyd i'r swyddog o dan reoliadau 13, 14 a 15 o'r Rheoliadau hyn neu'n fwriadol yn rhwystro unrhyw swyddog o'r fath sy'n arfer unrhyw rai o'r pwerau hynny,

yn euog o drosedd.

2

Mae person sy'n euog o drosedd o dan baragraff (1) yn agored–

a

ar gollfarn ddiannod i ddirwy dim uwch na'r uchafswm statudol; neu

b

ar gollfarn o dditiad i ddirwy.