Enwi, cychwyn a chymhwyso1
1
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cofrestru Prynwyr a Gwerthwyr Pysgod a Dynodi Safleoedd Arwerthu Pysgod (Cymru) 2006.
2
Daw y Rheoliadau hyn, sy'n berthnasol mewn perthynas â Chymru, i rym ar 9 Mehefin 2006.
3
Gellir dwyn achos am drosedd o dan y Rheoliadau hyn, ac i bob diben achlysurol, gellir ymdrin â'r drosedd fel pe bai wedi'i chyflawni yn unrhyw le yn y Deyrnas Unedig.