RHAN 3Cyfyngiadau ar fynediad at sgil-gynhyrchion anifeiliaid ac ar eu defnyddio

Ailgylchu mewnrywogaethol10

1

Mae mynd yn groes i Erthygl 22(1)(a) o Reoliad y Gymuned (sy'n gwahardd ailgylchu mewnrywogaethol) yn dramgwydd.

2

Er gwaethaf paragraff (1), nid yw rhoi protein anifeiliaid wedi'i brosesu sy'n deillio o gyrff neu o rannau o gyrff pysgod yn fwyd i bysgod yn dramgwydd os gwneir hyn yn unol ag Erthyglau 2 i 4 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 811/2003 ac Atodiad I iddo.

3

Yr awdurdod cymwys at ddibenion Erthygl 5 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 811/2003 yw'r Cynulliad Cenedlaethol.