xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2006 Rhif 1279 (Cy.124) (C.42)

HAWLIAU TRAMWY, CYMRU

Gorchymyn Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Cychwyn Rhif 8 a Darpariaethau Troisannol) (Cymru) 2006

Wedi'i wneud

10 Mai 2006

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru (“y Cynulliad Cenedlaethol”), drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 103(3), (4) a (5) o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (“Deddf 2000”)(1), drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi, cymhwyso a dehongli

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Cychwyn Rhif 8 a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2006.

(2Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

(3Yn y Gorchymyn hwn–

ystyr “Deddf 1980” (“the 1980 Act”) yw Deddf Priffyrdd 1980(2);

ystyr “Deddf 1981” (“the 1981 Act”) yw Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981(3).

Y diwrnod penodedig

2.  11 Mai 2006 yw'r diwrnod penodedig i ddarpariaethau canlynol Deddf 2000 ddod i rym–

(a)adran 47 (ailddynodi ffyrdd a ddefnyddir yn llwybrau cyhoeddus);

(b)adran 48 (hawliau cilffyrdd cyfyngedig);

(c)adran 49 (darpariaethau atodol at adrannau 47 a 48);

(ch)adran 50 (hawliau preifat dros gilffyrdd cyfyngedig);

(d)adran 51 (diwygiadau sy'n ymwneud â mapiau a datganiadau diffiniol a chilffyrdd cyfyngedig) i'r graddau y mae'n rhoi effaith i'r darpariaethau yn Atodlen 5 y cyfeirir atynt yn is-baragraffau (dd) ac (e) isod;

(dd)yn Rhan I–

(i)paragraff 1 (dyletswydd i adolygu mapiau a datganiadau diffiniol yn barhaus);

(ii)paragraff 5 (dim arolygon nac adolygiadau pellach o dan Ddeddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad at Gefn Gwlad 1949);

(iii)paragraff 6 (effaith map a datganiad diffiniol);

(iv)paragraff 9 (dehongli Rhan III);

(e)Rhan II;

(f)adran 102 i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau yn Atodlen 16 (diddymiadau sy'n ymwneud â hawliau tramwy cyhoeddus a thraffig ffyrdd) y cyfeirir atynt ym mharagraffau (ff) i (ng) isod;

(ff)Rhan II i'r graddau y mae'n diddymu adran 54 o Ddeddf 1981;

(g)Rhan II i'r graddau y mae'n diddymu adran 56(5) o Ddeddf 1981;

(ng)Rhan II i'r graddau y mae'n diddymu rhan o adran 57(1) o Ddeddf 1981;

(h)adran 57 (creu, cau a gwyro priffyrdd) i'r graddau y mae'n rhoi effaith i'r ddarpariaeth y cyfeirir ati yn is-baragraff (j) isod;

(i)adran 69(2) o Ddeddf 2000 (diwygio adran 147(5) o Ddeddf 1980 sy'n ymwneud â'r dehongliad o gyfeiriadau at dir amaethyddol ac at dir yn cael ei ddefnyddio o'r newydd ar gyfer amaethyddiaeth at ddibenion adran 147 o Ddeddf 1980);

(j)is-baragraff (8) o baragraff 23 o Atodlen 6 i'r graddau nad yw'r is-baragraff hwnnw eisoes mewn grym.

Darpariaethau trosiannol

3.—(1Ni fydd dim yn adran 47 na 48 o Ddeddf 2000 yn effeithio ar weithredu adran 53 na 54 o Ddeddf 1981 nac ar Atodlen 14 na 15 iddi mewn perthynas â gorchymyn perthnasol neu gais am orchymyn perthnasol a wnaed cyn 11 Mai 2006.

(2Ym mharagraff (1) mae i “gorchymyn perthnasol” yr ystyr a roddir i “relevant order” yn adran 48(10) o Ddeddf 2000.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(4)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

10 Mai 2006

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ddarpariaethau penodol Rhan II o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (“Deddf 2000”) ar 11 Mai 2006 o ran Cymru.

Mae adrannau 47 i 50 o Ddeddf 2000 yn rhoi i'r cyhoedd hawliau cilffyrdd cyfyngedig o ran “ffyrdd a ddefnyddir yn llwybrau cyhoeddus” (“FfDdLlCau”) sydd i'w hadnabod yn lle hynny fel cilffyrdd cyfyngedig. Hawliau cilffyrdd cyfyngedig yw hawl tramwy ar droed, hawl tramwy ar gefn ceffyl neu'n tywys ceffyl, a hawl tramwy ar gyfer cerbydau nad ydynt yn gerbydau a yrrir yn fecanyddol. Nid yw rhoi hawliau cilffyrdd cyfyngedig yn nacáu bodolaeth hawl tramwy ar gyfer cerbydau a yrrir yn fecanyddol nac unrhyw hawl arall (erthygl 2).

O dan adrannau 53 a 54 o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (p.69) (“Deddf 1981”) mae'n ofynnol i awdurdodau arolygu wneud gorchmynion diwygio mapiau diffiniol. Mae Gorchmynion a wneir o dan adran 53 o Ddeddf 1981 yn ymwneud â dyletswydd awdurdod o dan yr adran honno i adolygu'r map a'r datganiad diffiniol yn barhaus, ac maent yn cael eu gwneud o ganlyniad i ddigwyddiadau penodol a nodir yn yr adran honno. Mae a wnelo un o'r digwyddiadau hynny ag awdurdod yn cael hyd i dystiolaeth sydd, wrth ei hystyried ynghyd â phob tystiolaeth berthnasol arall sydd ar gael, yn dangos y dylid newid y disgrifiad o briffordd benodol ar fap a datganiad diffiniol. Mae Gorchmynion a wneir o dan adran 54 o Ddeddf 1981 yn ymwneud â dyletswydd awdurdod o dan yr adran honno i ailddosbarthu FfDdLlCau yn llwybrau ceffylau, llwybrau troed neu gilffyrdd sy'n agored i bob traffig.

“Gorchmynion perthnasol” at ddibenion adran 48(9) o Ddeddf 2000 yw gorchmynion yn y dosbarth cyntaf sy'n ymwneud â FfDdLlCau a gorchmynion yn yr ail ddosbarth ac yn unol â gofynion yr adran honno nid oes dim yn adran 47 nac yn adran 48 o Ddeddf 2000 yn effeithio ar weithredu adran 53 nac adran 54 o Ddeddf 1981 nac ar Atodlen 14 neu 15 iddi mewn perthynas â'r gorchmynion hynny pan wnaed y gorchmynion hynny, neu pan wnaed cais am y gorchmynion hynny, cyn 11 Mai 2006 (erthygl 5).

Mae adran 54 o Ddeddf 1981 yn peidio â bod yn effeithiol ac o ganlyniad i hynny caiff awdurdodau arolygu eu rhyddhau o'r ddyletswydd i ailddosbarthu FfDdLlCau a osodir gan yr adran honno (erthygl 2).

Mae adran 51 o Ddeddf 2000 ac Atodlen 5 iddi yn gwneud diwygiadau canlyniadol a pherthnasol i ddeddfwriaeth sylfaenol (erthygl 2).

Mae cychwyn adran 57 at ddibenion gwneud paragraff 23(8) o Atodlen 6 i Ddeddf 2000 yn effeithiol yn rhoi pŵer i arolygwyr ddyfarnu costau o ran gwrandawiadau a gynhelir o dan baragraff 2 o Atodlen 6 i Ddeddf Priffyrdd 1980 (darpariaethau ynghylch gwneud, cadarnhau, dilysrwydd a dyddiad gweithrediad gorchmynion penodol sy'n ymwneud â llwybrau troed a llwybrau ceffylau), ac mae'n cymhwyso adran 322A o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (p.8) (gorchmynion sy'n ymwneud â chostau pan na fo gwrandawiad neu ymchwiliad yn cael ei gynnal) o ran gwrandawiadau neu ymchwiliadau lleol a gynhelir o dan y paragraff hwnnw. Daethpwyd â'r ddarpariaeth hon i rym i'r graddau y mae'n ymwneud â gorchmynion i gau neu wyro priffyrdd penodol a'r priffyrdd hynny yn croesi tir a feddiennir at ddibenion ysgol gan erthygl 3 o Orchymyn Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Cychwyn Rhif 7) (Cymru) 2005 (O.S. 2005/1314 (Cy. 96) (C.58)) (erthygl 2).

Mae cychwyn adran 69(2) o Ddeddf 2000 yn estyn y diffiniad o “agricultural land” a geir yn adran 147 o Ddeddf 1980 at ddibenion pŵ er yr awdurdod cymwys o dan yr adran honno i awdurdodi codi camfeydd (sticlau), clwydi (giatiau, ietau), neu weithiau eraill mewn perthynas â thir o'r fath ac i dir o'r fath gael ei ddefnyddio at ddibenion amaethyddol (erthygl 2).

Mae adran 102 o Ddeddf 2000 ac Atodlen 16 iddi yn peri diddymiadau canlyniadol i ddarpariaethau penodol o Ddeddf 1981.

Y map a'r datganiad diffiniol ar gyfer unrhyw ardal yw'r cofnod cyfreithiol o hawliau tramwy'r cyhoedd a baratoir ac a adolygir gan yr awdurdod arolygu ar gyfer yr ardal honno (y cyngor sir neu'r cyngor bwrdeistref sirol y mae ei ardal yn cynnwys yr ardal honno). Gellir edrych ar y map a'r datganiad diffiniol yn swyddfeydd y cyngor ar bob adeg resymol.

Nodyn Orchymyn Cychwyn Blaenorol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Daethpwyd â darpariaethau canlynol Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 i rym yng Nghymru gan orchmynion cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn–

Adran(nau) neu Atodlen(ni)Y dyddiad cychwynRhif O.S.
228 Mai 20052005/423 (Cy.41) (C.19)
12 i 1428 Mai 20052005/423 (Cy.41) (C.19)
18, 20 a 46(1)(a)21 Mehefin 20042004/1489 (Cy.154) (C.59)
46(1)(b)1 Mai 20012001/1410 (Cy.96) (C.50)
46(3) (yn rhannol)1 Mai 20012001/1410 (Cy.96) (C.50)
46(3) (yn rhannol)28 Mai 20052005/423 (Cy.41) (C.19)
51 (yn rhannol)31 Mai 20052005/1314 (Cy.96) (C.58)
51 (yn rhannol)21 Tachwedd 20052005/1314 (Cy.96) (C.58)
57 (yn rhannol)1 Mai 20012001/1410 (Cy.96) (C.50)
57 (yn rhannol)31 Mai 20052005/1314 (Cy.96) (C.58)
57 (yn rhannol)15 Gorffennaf2005/1314 2005 (Cy.96) (C.58)
57 (yn rhannol)21 Tachwedd 20052005/1314 (Cy.96) (C.58)
60 a 611 Tachwedd 20022002/2615 (Cy.253) (C.82)
631 Ebrill 20042004/315 (Cy.33) (C.16)
681 Mai 20012001/1410 (Cy.96) (C.50)
70(1)1 Ebrill 20042004/315 (Cy.33) (C.16)
70(2)1 Mai 20012001/1410 (Cy.96) (C.50)
70(3)1 Ebrill 20042004/315 (Cy.33) (C.16)
70(4)1 Mai 20012001/1410 (Cy.96) (C.50)
721 Mai 20012001/1410 (Cy.96) (C.50)
Rhan IV (adrannau 82 i 93) (ac, yn unol â hynny, Atodlenni 13 i 15)1 Mai 20012001/1410 (Cy.96) (C.50)
961 Mai 20012001/1410 (Cy.96) (C.50)
9930 Ionawr 20012001/203 (Cy.9) (C.10)
102 (yn rhannol)1 Mai 20012001/1410 (Cy.96) (C.50)
102 (yn rhannol)28 Mai 20052005/423 (Cy.41) (C.19)
Atodlen 228 Mai 20052005/423 (Cy.41) (C.19)
Atodlen 4, paragraffau 1, 4, 5 a 61 Mai 20012001/1410 (Cy.96) (C.50)
Atodlen 4, paragraffau 2 a 328 Mai 20052005/423 (Cy.41) (C.19)
Atodlen 5, paragraff 221 Tachwedd 20052005/1314 (Cy.96) (C.58)
Atodlen 5, paragraffau 8, 10 ac 1131 Mai 20052005/1314 (Cy.96) (C.58)
Atodlen 6, paragraffau 1, 6 a 9(5)1 Ebrill 20042004/315 (Cy.33) (C.16)
Atodlenni 6, paragraffau 2, 3, 9(1) i (3), 11, 14(1) a (4)(a), 20(a) i (c) a 2431 Mai 20052005/1314 (Cy.96) (C.58)
Atodlen 6, paragraff 5 (yn rhannol), paragraff 8 (y gweddill), paragraff 12 (yn rhannol), paragraffau 13(1) i (4) (yn rhannol), (5)(a) i (d) (yn rhannol) a (7) i (9) (yn rhannol), paragraff 14 (yn rhannol), paragraff 17 (yn rhannol), paragraff 18(a) (yn rhannol) a (b), paragraff 19 (yn rhannol), paragraff 20(d) ac (e), paragraff 21 (yn rhannol), paragraffau 23(1) (yn rhannol), (2)(a) a (b) (yn rhannol), (3)(a) a (b) (yn rhannol), (4)(a) a (b) (yn rhannol), (5) (yn rhannol), (7) (yn rhannol), (8) (yn rhannol), 9(a) a (9)(b) (yn rhannol)15 Gorffennaf 20052005/1314 (Cy.96) (C.58)
Atodlen 6, paragraff 4, paragraff 15 (yn rhannol)21 Tachwedd 20052005/1314 (Cy.96) (C.58)
Atodlen 6, paragraffau 18(a) (yn rhannol) a 19 (yn rhannol)1 Mai 20012001/1410 (Cy.96) (C.50)
Atodlen 16, Rhan I (yn rhannol)1 Mai 20012001/1410 (C.50)
Atodlen 16, Rhan I (yn rhannol)21 Mehefin 20042004/1489 (Cy.154) (C.59)
Atodlen 16, Rhan I (y gweddill)28 Mai 20052005/423 (Cy.41) (C.19)
Atodlen 16, Rhan II (yn rhannol)1 Mai 20012001/1410 (Cy.96) (C.50)
Atodlen 16, Rhannau III i VI1 Mai 20012001/1410 (Cy.96) (C.50)

Gwnaed y Gorchmynion Cychwyn canlynol o dan Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 o ran Lloegr–