2006 Rhif 1277 (Cy.122)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Addysg (Gorchmynion Rhianta) (Cymru) 2006

Wedi'u gwneud

Yn dod i rym

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 20(1), 21(4) a 94(2) o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 20031, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso1

1

Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Gorchmynion Rhianta) (Cymru) 2006 a deuant i rym ar 11 Mai 2006.

2

Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran disgyblion a waherddir o ysgolion yng Nghymru.

Dehongli2

Yn y Rheoliadau hyn–

  • mae i “cyfnod perthnasol” (“relevant period”) yr ystyr a roddir i'r geiriau hynny gan reoliad 4;

  • ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003;

  • ystyr “Deddf 2002” (“the 2002 Act”) yw Deddf Addysg 20022; ac

  • mae i “diwrnod ysgol” (“school day”) yr ystyr a roddir i “school day” yn Neddf Addysg 1996.

Amodau Rhagnodedig3

1

Rhagnodir y materion canlynol at ddibenion adran 20(1)(b) o'r Ddeddf.

2

Yn achos disgybl a waherddir am gyfnod penodol, rhaid i'r gwaharddiad fod yn ail waharddiad neu'n waharddiad olynol a waharddodd y disgybl o unrhyw ysgol cyn pen deuddeng mis ar ôl y diwrnod pan ddechreuodd y gwaharddiad blaenorol.

3

Ym mhob achos, ni ellir gwneud cais ond cyn pen y cyfnod perthnasol ac ar yr amod–

a

yn achos disgybl a waherddir yn barhaol, bod y cais yn cael ei wneud heb fod yn hwyrach na chwe mis ar ôl y dyddiad pan waharddwyd y disgybl; a

b

yn achos disgybl a waherddir am gyfnod penodol, bod y cais yn cael ei wneud heb fod yn hwyrach na chwe mis ar ôl y gwaharddiad diwethaf y cyfeiriwyd ato ym mharagraff (2) uchod.

Cyfnod Perthnasol4

1

Yn achos disgybl a waherddir am gyfnod penodedig, y “cyfnod perthnasol”yw p'un bynnag o'r canlynol sy'n gymwys, ac os yw'r ddau yn gymwys p'un bynnag o ohonynt sy'n dod i ben hwyraf–

a

y cyfnod o 40 niwrnod ysgol sy'n dechrau ar y diwrnod ysgol nesaf ar ôl y diwrnod pan ystyriwyd y gwaharddiad gan y corff llywodraethu (neu yn achos gwahardd disgybl o uned cyfeirio disgyblion, yr awdurdod addysg lleol) neu, os nad ystyriwyd y gwaharddiad felly, y diwrnod pan ddechreuodd;

b

y cyfnod o chwe mis sy'n dechrau ar y diwrnod pan ymrwymodd unrhyw un o rieni'r disgybl i gontract rhianta.

2

Yn achos disgybl a waherddir yn barhaol, y “cyfnod perthnasol” yw p'un bynnag o'r canlynol sy'n gymwys, ac os yw'r ddau yn gymwys, p'un bynnag ohonynt sy'n dod i ben hwyraf–

a

y cyfnod o 40 niwrnod ysgol sy'n dechrau ar y diwrnod ysgol nesaf ar ôl–

i

y diwrnod pan benderfynodd panel apêl a gyfansoddwyd o dan reoliadau a wnaed o dan adran 52 o Ddeddf 2002 gadarnhau'r gwaharddiad, neu

ii

os nad oedd apêl, y diwrnod olaf pan fuasai'n bosibl gwneud apêl; neu

b

y cyfnod o chwe mis sy'n dechrau ar y diwrnod pan ymrwymodd unrhyw un o rieni'r disgybl i gontract rhianta.

Costau gorchymyn rhianta5

Bydd yr awdurdod addysg lleol yn gyfrifol am y costau sy'n gysylltiedig â gofynion gorchmynion rhianta o dan adran 20 o'r Ddeddf, gan gynnwys costau darparu rhaglenni cwnsela neu gyfarwyddyd.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19983

D. Elis-ThomasLlywydd y Cynulliad Cenedlaethol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn rhagnodi'r amodau sydd i'w bodloni cyn y caiff awdurdod addysg lleol wneud cais i lys ynadon am orchymyn rhianta o dan adran 20(1)(b) o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003. Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran disgyblion a waherddir o ysgolion yng Nghymru.

Rhoddir yr amodau yn rheoliad 3. Yn achos disgybl a waherddir am gyfnod penodol, rhaid ei fod wedi'i wahardd o leiaf ddwywaith mewn cyfnod o ddeuddeng mis. Ym mhob achos, rhaid peidio â gwneud cais mwy na chwe mis ar ôl y tro diwethaf y gwaharddwyd disgybl a rhaid gwneud y cais cyn pen y “cyfnod perthnasol” a ddiffinnir yn rheoliad 4.

Mae rheoliad 5 yn darparu y bydd yr awdurdod addysg leol yn gyfrifol am gostau sy'n gysylltiedig â gofynion gorchymyn rhianta.