Search Legislation

Rheoliadau Addysg (Gorchmynion Rhianta) (Cymru) 2006

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2006 Rhif 1277 (Cy.122)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Addysg (Gorchmynion Rhianta) (Cymru) 2006

Wedi'u gwneud

10 Mai 2006

Yn dod i rym

11 Mai 2006

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 20(1), 21(4) a 94(2) o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003(1), drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Gorchmynion Rhianta) (Cymru) 2006 a deuant i rym ar 11 Mai 2006.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran disgyblion a waherddir o ysgolion yng Nghymru.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn–

mae i “cyfnod perthnasol” (“relevant period”) yr ystyr a roddir i'r geiriau hynny gan reoliad 4;

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003;

ystyr “Deddf 2002” (“the 2002 Act”) yw Deddf Addysg 2002(2); ac

mae i “diwrnod ysgol” (“school day”) yr ystyr a roddir i “school day” yn Neddf Addysg 1996.

Amodau Rhagnodedig

3.—(1Rhagnodir y materion canlynol at ddibenion adran 20(1)(b) o'r Ddeddf.

(2Yn achos disgybl a waherddir am gyfnod penodol, rhaid i'r gwaharddiad fod yn ail waharddiad neu'n waharddiad olynol a waharddodd y disgybl o unrhyw ysgol cyn pen deuddeng mis ar ôl y diwrnod pan ddechreuodd y gwaharddiad blaenorol.

(3Ym mhob achos, ni ellir gwneud cais ond cyn pen y cyfnod perthnasol ac ar yr amod–

(a)yn achos disgybl a waherddir yn barhaol, bod y cais yn cael ei wneud heb fod yn hwyrach na chwe mis ar ôl y dyddiad pan waharddwyd y disgybl; a

(b)yn achos disgybl a waherddir am gyfnod penodol, bod y cais yn cael ei wneud heb fod yn hwyrach na chwe mis ar ôl y gwaharddiad diwethaf y cyfeiriwyd ato ym mharagraff (2) uchod.

Cyfnod Perthnasol

4.—(1Yn achos disgybl a waherddir am gyfnod penodedig, y “cyfnod perthnasol”yw p'un bynnag o'r canlynol sy'n gymwys, ac os yw'r ddau yn gymwys p'un bynnag o ohonynt sy'n dod i ben hwyraf–

(a)y cyfnod o 40 niwrnod ysgol sy'n dechrau ar y diwrnod ysgol nesaf ar ôl y diwrnod pan ystyriwyd y gwaharddiad gan y corff llywodraethu (neu yn achos gwahardd disgybl o uned cyfeirio disgyblion, yr awdurdod addysg lleol) neu, os nad ystyriwyd y gwaharddiad felly, y diwrnod pan ddechreuodd;

(b)y cyfnod o chwe mis sy'n dechrau ar y diwrnod pan ymrwymodd unrhyw un o rieni'r disgybl i gontract rhianta.

(2Yn achos disgybl a waherddir yn barhaol, y “cyfnod perthnasol” yw p'un bynnag o'r canlynol sy'n gymwys, ac os yw'r ddau yn gymwys, p'un bynnag ohonynt sy'n dod i ben hwyraf–

(a)y cyfnod o 40 niwrnod ysgol sy'n dechrau ar y diwrnod ysgol nesaf ar ôl–

(i)y diwrnod pan benderfynodd panel apêl a gyfansoddwyd o dan reoliadau a wnaed o dan adran 52 o Ddeddf 2002 gadarnhau'r gwaharddiad, neu

(ii)os nad oedd apêl, y diwrnod olaf pan fuasai'n bosibl gwneud apêl; neu

(b)y cyfnod o chwe mis sy'n dechrau ar y diwrnod pan ymrwymodd unrhyw un o rieni'r disgybl i gontract rhianta.

Costau gorchymyn rhianta

5.  Bydd yr awdurdod addysg lleol yn gyfrifol am y costau sy'n gysylltiedig â gofynion gorchmynion rhianta o dan adran 20 o'r Ddeddf, gan gynnwys costau darparu rhaglenni cwnsela neu gyfarwyddyd.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(3)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

10 Mai 2006

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn rhagnodi'r amodau sydd i'w bodloni cyn y caiff awdurdod addysg lleol wneud cais i lys ynadon am orchymyn rhianta o dan adran 20(1)(b) o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003. Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran disgyblion a waherddir o ysgolion yng Nghymru.

Rhoddir yr amodau yn rheoliad 3. Yn achos disgybl a waherddir am gyfnod penodol, rhaid ei fod wedi'i wahardd o leiaf ddwywaith mewn cyfnod o ddeuddeng mis. Ym mhob achos, rhaid peidio â gwneud cais mwy na chwe mis ar ôl y tro diwethaf y gwaharddwyd disgybl a rhaid gwneud y cais cyn pen y “cyfnod perthnasol” a ddiffinnir yn rheoliad 4.

Mae rheoliad 5 yn darparu y bydd yr awdurdod addysg leol yn gyfrifol am gostau sy'n gysylltiedig â gofynion gorchymyn rhianta.

(1)

2003 p.38. Rhoddir y pwerau i'r “appropriate person”. Mae adran 24 yn diffinio'r “appropriate person” fel “in relation to Wales, the National Assembly for Wales”

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources