Offerynnau Statudol Cymru

2006 Rhif 1261 (Cy.118)

HAWLIAU BRIDWYR PLANHIGION, CYMRU

Gorchymyn Hawliau Bridwyr Planhigion (Dirwyn i Ben Esemptiad o Ddefnydd Blaenorol) (Cymru) 2006

Wedi'i wneud

3 Mai 2006

Yn dod i rym

12 Mai 2006

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 9(6) o Ddeddf Amrywogaethau Planhigion 1997(1) ac sydd bellach wedi'u breinio ynddo(2) ar ôl ymgynghori â'r cyrff hynny y mae'n ymddangos iddo eu bod yn gynrychioliadol o'r personau y mae'n debygol yr effeithir arnynt yn sylweddol, yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Hawliau Bridwyr Planhigion (Dirwyn i Ben Esemptiad o Ddefnydd Blaenorol) (Cymru) 2006 a daw i rym ar 12 Mai 2006.

(2Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

Dirwyn i Ben Esemptiad o Ddefnydd Blaenorol

2.  Mae adran 9(5) o Ddeddf Amrywogaethau Planhigion 1997 yn peidio â chael effaith.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(3)

D. Elis-Thoma

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

3 Mai 2006

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru a daw i rym ar 12 Mai 2006.

Mae'r Gorchymyn yn dirwyn i ben yr esemptiad o ddefnydd blaenorol yn adran 9(5) o Ddeddf Amrywogaethau Planhigion 1997.

Paratowyd Arfarniad Rheoliadol ar gyfer y Rheoliadau hyn. Gellir cael copïau oddi wrth yr Adran dros yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.

(2)

1997 p.66. gweler adran 49(1) i gael y diffiniad o “the Ministers”.

(3)

Trosglwyddodd erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau 1999 ac Atodlen 1 iddo (O.S. 1999/672) swyddogaethau"r Gweinidogion o dan adran 9 o Ddeddf Amrywogaethau Planhigion 1997, i"r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.