Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn cael eu gwneud o dan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972. Eu prif nod yw gweithredu, o ran Cymru, Erthygl 8 o Gyfarwyddeb y Cyngor 75/442/EEC ar wastraff(1) (y “Cyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff”) o ran meddiannydd eiddo domestig mewn perthynas â'r gwastraff cartref a gynhyrchir ar yr eiddo.

Mae rheoliad 1 (enwi a chychwyn) yn darparu y daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 26 Ionawr 2006 a'u bod yn gymwys o ran Cymru.

Mae rheoliad 2 yn diwygio adran 34 o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 (“Deddf 1990”). Mae adran 34(2A) o Ddeddf 1990 (fel y'i mewnosodir gan Reoliadau Gwastraff (Dyletswydd Gofal o ran Gwastraff Cartref) (Cymru a Lloegr) 2005(2) yn gosod dyletswydd ar feddiannydd eiddo domestig yn Lloegr o ran y gwastraff cartref a gynhyrchir ar yr eiddo. Y ddyletswydd a osodir yw bod y meddiannydd yn cymryd yr holl fesurau sydd ar gael iddo ac sy'n rhesymol o dan yr amgylchiadau er mwyn sicrhau bod unrhyw drosglwyddiad ganddo o wastraff cartref a gynhyrchir ar yr eiddo ddim ond yn drosglwyddiad i berson awdurdodedig neu i berson at ddibenion cludo a awdurdodwyd. Mae rheoliad 2(2) yn estyn y ddyletswydd honno i unrhyw feddiannydd eiddo domestig yng Nghymru. Bydd unrhyw berson sy'n methu â chydymffurfio â'r ddyletswydd honno yn agored i gosbau, yn ôl adran 34(6) o Ddeddf 1990.

Mae rheoliad 3(1) yn gwneud diwygiadau canlyniadol i reoliad 2(2) o Reoliadau Gwastraff a Reolir 1992(3).

Mae arfarniad rheoliadol o'r effaith y bydd yr offeryn hwn yn ei chael ar gostau busnes wedi'i baratoi ac mae ar gael o Is-adran yr Amgylchedd — Diogelu ac Ansawdd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.

(1)

O.J. Rhif L194, 25.7.1975, t.39 (fel y'i diwygiwyd gan Gyfarwyddebau'r Cyngor 91/156/EEC (O.J. Rhif L78, 26.3.1991, t. 32), 91/692/EEC (O.J. Rhif L377, 31.12.1991, t.48 (fel y'i cywirwyd drwy Gorigendwm, O.J. Rhif L146, 13.6.2003, t.52)), Penderfyniad y Comisiwn 96/350/EEC (O.J. Rhif L135, 6.6.1996, t.32) a Rheoliad (EC) Rhif 1882/2003 (O.J. Rhif L284, 31.10.2003 t.1 )).