Rheoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Cymru) 2006

Defaid a geifr mewn lladd-dy

10.—(1Pan gaiff defaid neu eifr eu cigydda, mae'n rhaid i feddiannydd y lladd-dy dynnu'r holl ddeunydd risg penodedig (ar wahân i linyn yr asgwrn cefn) cyn gynted ag y bo hynny'n rhesymol ymarferol ar ôl cigydda ac ym mhob achos cyn yr archwiliad post-mortem.

(2Mewn achos dafad neu afr dros 12 mis oed adeg cigydda, neu sydd â blaenddant parhaol wedi torri trwy'r deintgig, mae'n rhaid i'r meddiannydd cyn gynted ag y bo hynny'n rhesymol ymarferol ar ôl cigydda–

(a)dynnu llinyn yr asgwrn cefn yn y lladd-dy cyn yr archwiliad post-mortem;

(b)anfon y cig i safle torri sydd wedi'i awdurdodi o dan baragraff 13(1)(b), neu

(c)yn unol â'r paragraff cyntaf o bwynt 13 o Ran A o Atodiad XI i Reoliad TSE y Gymuned anfon y cig i safle torri mewn aelod-wladwriaeth arall cyn belled â bod yr Asiantaeth Safonau Bwyd wedi gwneud cytundeb ysgrifenedig gydag awdurdod cymwys yr aelod-wladwriaeth sy'n ei dderbyn, ac yr anfonir y cig yn unol â'r cytundeb hwnnw.

(3Yn is-baragraff (2) (c), ystyr “safle torri” (“cutting plant”) yw mangre –

(a)a gymeradwywyd neu a gymeradwywyd yn amodol fel mangre o'r fath o dan Erthygl 31(2) of Reoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar y rheolaethau swyddogol a wneir i sicrhau y dilysir bod cydymffurfio â chyfraith bwydydd anifeiliaid a bwyd, a rheolau iechyd anifeiliaid a lles anifeiliaid(1)yn digwydd; neu

(b)sy'n gweithredu fel mangre o'r fath o dan Erthygl 4(5) o Reoliad (EC) Rhif 835/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau hylendid penodol ar gyfer bwyd sy'n dod o anifeiliaid(2)hyd onis cymeradwyir felly.

(4Mae peidio â chydymffurfio â'r paragraff hwn yn drosedd.