ATODLEN 6Deunydd risg penodedig, cig sydd wedi ei adennill trwy ddulliau mecanyddol a dulliau cigydda

Defaid a geifr mewn lladd-dy10

1

Pan gaiff defaid neu eifr eu cigydda, mae'n rhaid i feddiannydd y lladd-dy dynnu'r holl ddeunydd risg penodedig (ar wahân i linyn yr asgwrn cefn) cyn gynted ag y bo hynny'n rhesymol ymarferol ar ôl cigydda ac ym mhob achos cyn yr archwiliad post-mortem.

2

Mewn achos dafad neu afr dros 12 mis oed adeg cigydda, neu sydd â blaenddant parhaol wedi torri trwy'r deintgig, mae'n rhaid i'r meddiannydd cyn gynted ag y bo hynny'n rhesymol ymarferol ar ôl cigydda–

a

dynnu llinyn yr asgwrn cefn yn y lladd-dy cyn yr archwiliad post-mortem;

b

anfon y cig i safle torri sydd wedi'i awdurdodi o dan baragraff 13(1)(b), neu

c

yn unol â'r paragraff cyntaf o bwynt 13 o Ran A o Atodiad XI i Reoliad TSE y Gymuned anfon y cig i safle torri mewn aelod-wladwriaeth arall cyn belled â bod yr Asiantaeth Safonau Bwyd wedi gwneud cytundeb ysgrifenedig gydag awdurdod cymwys yr aelod-wladwriaeth sy'n ei dderbyn, ac yr anfonir y cig yn unol â'r cytundeb hwnnw.

3

Yn is-baragraff (2) (c), ystyr “safle torri” (“cutting plant”) yw mangre –

a

a gymeradwywyd neu a gymeradwywyd yn amodol fel mangre o'r fath o dan Erthygl 31(2) of Reoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar y rheolaethau swyddogol a wneir i sicrhau y dilysir bod cydymffurfio â chyfraith bwydydd anifeiliaid a bwyd, a rheolau iechyd anifeiliaid a lles anifeiliaid47yn digwydd; neu

b

sy'n gweithredu fel mangre o'r fath o dan Erthygl 4(5) o Reoliad (EC) Rhif 835/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau hylendid penodol ar gyfer bwyd sy'n dod o anifeiliaid48hyd onis cymeradwyir felly.

4

Mae peidio â chydymffurfio â'r paragraff hwn yn drosedd.