Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

1.  Mae'r Rheoliadau hyn sy'n gymwys o ran Cymru—

(a)yn dirymu, gyda rhai eithriadau, ddarpariaethau Rheoliadau Porthiant (Cymru) 2001 (fel y'u diwygiwyd ddiwethaf gan O.S. 2004/3091 (Cy.265), (“Rheoliadau 2001”)) (rheoliad 7);

(b)yn ailddeddfu, gyda diwygiadau neu hebddynt, y mwyafrif o ddarpariaethau Rheoliadau 2001; ac

(c)yn cyflwyno darpariaethau newydd i orfodi ac i weinyddu Rheoliad (EC) Rhif 1831/2003 ar ychwanegion sydd i'w defnyddio ar gyfer maethiad anifeiliaid.

2.  Mae'r Rheoliadau yn darparu ar gyfer gweithredu Cyfarwyddebau'r Gymuned Ewropeaidd a restrir ym mharagraff 12 isod.

3.  Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i anifeiliaid fferm ac anifeiliaid anwes ac yn rheoliad 14 maent hefyd yn gymwys i anifeiliaid sy'n byw'n rhydd yn y gwyllt.

4.  Mae'r Rheoliadau yn cadw'r addasiadau a wnaed i Ddeddf Amaethyddiaeth 1970 (“y Ddeddf”) gan reoliadau 18 a 19 yn Rheoliadau 2001 (rheoliadau 3 a 4).

5.  At ddibenion adrannau 68(1) a 69(1) y Ddeddf, mae unrhyw ddeunydd y gellir ei ddefnyddio fel bwyd anifeiliaid, ychwanegyn neu rag-gymysgedd yn ddeunydd rhagnodedig (rheoliad 5). O dan yr adrannau hynny, mae'n ofynnol i rai sy'n gwerthu deunyddiau rhagnodedig roi “datganiadau statudol” (“statutory statements”) i brynwyr yn cynnwys cyfansoddiad y deunydd a gwybodaeth ynghylch sut i'w storio, ei drin a'i ddefnyddio. Rhaid marcio deunydd sy'n cael ei gadw ar gyfer ei werthu â gwybodaeth o'r fath.

6.  Rhagnodir cynnwys y datganiad statudol a'r hysbysiadau eraill gan reoliad 8 ac Atodlen 3 a'u ffurf gan reoliad 9. (Mae labelu ychwanegion a rhag-gymysgeddau nad ydynt wedi eu cymysgu â bwydydd anifeiliaid yn awr yn cael ei reoli'n uniongyrchol gan Reoliad (EC) Rhif 1831/2003).

7.  Cynhwysir darpariaethau pellach o ran datganiadau statudol yn ymwneud â'r terfynau a ganiateir ar gyfer anghywirdebau yn rheoliad 10 ac Atodlen 4.

8.  Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn—

(a)darparu ystyron i enwau deunyddiau penodol at ddibenion adran 70 o'r Ddeddf (sy'n creu gwarantiad ymhlyg fod deunydd a ddisgrifir ag enw y neilltuwyd ystyr ar ei gyfer dan yr adran honno yn cydsynio â'r ystyr) (rheoliad 11);

(b)rhagnodi'r ffordd y gellir selio a phecynnu bwyd anifeiliaid cyfansawdd (rheoliad 12);

(c)rheoli'r ffordd y gellir rhoi deunyddiau bwyd anifeiliaid mewn cylchrediad neu eu defnyddio (rheoliad 13 ac Atodlen 2);

(ch)cyfyngu ar roi mewn cylchrediad neu ddefnyddio deunyddiau bwydydd anifeiliaid sy'n cynnwys sylweddau annymunol penodedig (rheoliad 14 ac Atodlen 5);

(d)gwahardd rhoi mewn cylchrediad neu ddefnyddio unrhyw fwyd anifeiliaid sy'n cynnwys sylweddau rhagnodedig penodol (rheoliad 15);

(dd)cyfyngu ar farchnata a defnyddio ffynonellau protein penodol a chyfansoddion nitrogenaidd nad ydynt yn brotein mewn bwydydd anifeiliaid (rheoliad 16 ac Atodlen 6);

(e)rheoli'r haearn a gynhwysir mewn bwydydd anifeiliaid sy'n cymryd lle llaeth (rheoliad 17);

(f)gwahardd rhoi mewn cylchrediad fwydydd anifeiliaid cyfansawdd lle mae'r swm o ludw sy'n annhoddadwy mewn asid hydroclorig yn uwch na lefelau penodedig (rheoliad 18);

(ff)rheoli marchnata bwydydd anifeiliaid a fwriedir at ddibenion maethiadol penodol (dieteteg) (rheoliad 19 ac Atodlen 7);

(g)darparu mesurau gorfodi a throsiannol ar gyfer Rheoliad (EC) Rhif 1831/2003 ar ychwanegion sydd i'w defnyddio mewn maethiad anifeiliaid. (Mae'r Rheoliad hwn o'r Gymuned Ewropeaidd yn disodli Cyfarwyddeb 70/524/EEC fel y'i diwygiwyd, ond yn cadw rhai o'i darpariaethau o ran ychwanegion a gafodd eu hawdurdodi'n barod ac o ran labelu a phecynnu deunyddiau bwydydd anifeiliaid sy'n cynnwys ychwanegion) (rheoliad 20);

(ng)parhau dyletswydd cyfrinachedd ar gyfer y rhai yr oedd ganddynt fynediad at wybodaeth fasnachol sensitif o dan y system awdurdodi a oedd yn bodoli o dan Gyfarwyddeb 70/524/EEC.

9.  Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer gorfodi gofynion pan mai'r sail gyfreithiol yw Deddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 drwy gysylltu'r gofynion hynny â'r darpariaethau gorfodi yn y Ddeddf (rheoliad 22).

10.  Mae'r Rheoliadau yn diwygio adran 74A o'r Ddeddf ac yn darparu ar gyfer troseddau a chosbau o ran materion a gwmpasir gan y Rheoliadau na fyddent fel arall yn dod o fewn yr adran honno (rheoliad 23).

11.  Mae'r Rheoliadau yn diwygio, o ran Cymru, y Rheoliadau Porthiant (Samplu a Dadansoddi) 1999 yn yr un ffordd â'r hyn a fynegir fel addasiad yn Rheoliadau 2001, a hefyd yn gwneud diwygiadau canlyniadol i Reoliadau 1999 y'u crybwyllir uchod (rheoliad 24).

12.  Mae'r Rheoliadau hyn yn gweithredu Cyfarwyddebau'r Gymuned Ewropeaidd fel a ganlyn—

(a)Cyfarwyddeb y Cyngor 70/524/EEC (OJ Rhif L270, 14.12.70, t.1) yn ymwneud ag ychwanegion mewn bwydydd anifeiliaid, (i'r graddau y cedwir ei mesurau gan Reoliad (EC) Rhif 1831/2003), fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1756/2002 (OJ Rhif L265, 3.10.2002, t.1);

(b)Cyfarwyddeb y Cyngor 79/373/EEC (OJ Rhif L86, 6.4.79, t.30) ynglŷn â chylchredeg deunyddiau bwydydd anifeiliaid cyfansawdd, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 807/2003 (OJ Rhif L122, 16.5.2003, t.36);

(c)Cyfarwyddeb y Cyngor 82/471/EEC (OJ Rhif L213, 21.7.82, t.8) yn ymwneud â chynhyrchion penodol a ddefnyddir ar gyfer maethiad anifeiliaid, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf, yn effeithiol o 18.10.2004, gan Reoliad (EC) Rhif 1831/2003;

(ch)Cyfarwyddeb y Cyngor 93/74/EEC (OJ Rhif L237, 22.9.93, t.23) ar fwydydd anifeiliaid at ddibenion maethiadol penodol, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 806/2003 (OJ Rhif L122, 16.5.2003, t.1);

(d)Cyfarwyddeb y Cyngor 94/39/EC (OJ Rhif L207, 10.8.94, t.20) yn sefydlu rhestr o'r defnydd a fwriedir o fwydydd anifeiliaid at ddibenion maethiadol penodol;

(dd)Cyfarwyddeb y Cyngor 96/25/EC (OJ Rhif L125, 23.5.96, t.35) ar gylchredeg a defnyddio deunyddiau bwyd anifeiliaid, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 806/2003;

(e)Cyfarwyddeb 2002/32/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L140, 30.5.2002, t.10) ar sylweddau annymunol mewn bwyd anifeiliaid, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2003/100/EC (OJ Rhif L285, 1.11.2003, t.33).

13.  Mae Arfarniad Rheoliadol am yr effaith a gaiff y Rheoliadau hyn ar gostau busnes wedi'i baratoi yn unol ag adran 65 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 a'i osod yn Llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gellir cael copïau ohono oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Southgate House, Llawr 11, Wood Street, Caerdydd, CF10 1EW.