xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
4. Mae'r Rhan hon yn effeithiol yn lle darpariaethau Rhan 1 mewn perthynas â'r symudiadau y cyfeiriwyd atynt ym mharagraffau 5 i 17.
5.—(1) Pan fydd anifail sydd heb ei adnabod yn cael ei symud gyntaf o'r daliad lle mae'n byw ar y dyddiad y daw'r Gorchymyn hwn i rym, rhaid i'r ceidwad roi tag clust ar yr anifail gyda'r cod canlynol, wedi'i brintio yn y drefn ganlynol—
(a)y llythyren “S”neu'r llythrennau “UK”, os mai'r daliad lle mae'r anifail yn byw yw'r daliad geni neu'r daliad y cafodd ei fewnforio iddo, neu'r llythyren “S”, os mai unrhyw ddaliad arall ydyw;
(b)nod y ddiadell neu nod yr eifre ar gyfer y ddiadell neu'r eifre y mae'r anifail yn ei gadael;
(c)Rhif unigryw; ac
(ch)yn achos anifail a fewnforiwyd o drydedd gwlad, y llythyren “F”.
(2) Mae'r holl gyfeiriadau yn y Rhan hon at symud anifail o'r daliad lle cafodd ei adnabod i gael eu dehongli fel cyfeiriadau at symud anifail sydd heb ei adnabod am y tro cyntaf o'r daliad lle mae'n byw ar y dyddiad y daw'r Gorchymyn hwn i rym yn unol â'r paragraff hwn.
(3) At ddibenion y paragraff hwn, ystyr “anifail sydd heb ei adnabod” (“unidentified animal”) yw anifail a anwyd ar neu cyn 9 Gorffennaf 2005 sydd heb ei nodi gyda thag clust neu datŵ a roddwyd o dan unrhyw un o'r Gorchmynion blaenorol sy'n ei adnabod yn unigol.
6.—(1) Mae'r darpariaethau canlynol yn gymwys, yn ychwanegol at ofynion paragraff 5, pan symudir anifail o'r daliad lle cafodd ei adnabod.
(2) Pan symudir anifail o'r daliad lle cafodd ei adnabod i sioe neu arddangosfa, mae gofynion y gofrestr a'r ddogfen symud ym mharagraff 7 yn gymwys.
(3) Pan draddodir anifail o'r daliad adnabod i Aelod Wlad arall, mae'n rhaid i'r ceidwad—
(a)rhoi ail dag adnabod ar yr anifail gyda chod yr un union yr un fath â'r cyntaf a rhoi'r cod sydd ar y tagiau adnabod yn ei gofrestr ac yn y ddogfen symud; neu
(b)rhoi tag X ar yr anifail, croesgyfeirio cod y tag X i'r cod tag adnabod yn ei gofrestr a chofnodi cod y tag X yn y ddogfen symud.
(4) Pan symudir anifail o'r daliad adnabod i dir comin neu i ddaliad arall at ddibenion dipio neu gneifio a'i ddychwelyd ar unwaith i'r daliad adnabod, mae paragraff 9 yn gymwys.
(5) Pan symudir anifail o'r daliad adnabod i dir pori dros dro a'i ddychwelyd ar unwaith i'r daliad adnabod, mae paragraff 10 yn gymwys.
(6) Pan symudir anifail o'r daliad adnabod i unrhyw ddaliad arall, mae'n rhaid i'r ceidwad gofnodi'r wybodaeth y cyfeiriwyd ati ym mharagraff 5(1)(a) a 5(1)(b) yn ei gofrestr ac yn y ddogfen symud ac mae'n rhaid i geidwad y daliad sy'n derbyn yr anifail gofnodi'r un wybodaeth yn ei gofrestr pan fydd yn derbyn yr anifail.
7.—(1) Pan symudir anifail o unrhyw ddaliad i sioe neu arddangosfa yn y Deyrnas Unedig, mae'n rhaid i'r ceidwad gofnodi cod adnabod unigol yr anifail hwnnw yn ei gofrestr ac yn y ddogfen symud.
(2) Pan fydd yr anifail yn cyrraedd sioe neu arddangosfa, mae'n rhaid i drefnydd y sioe neu'r arddangosfa gofnodi cod adnabod unigol yr anifail yn ei gofrestr.
(3) Pan fydd yr anifail yn gadael y sioe neu'r arddangosfa, mae'n rhaid i drefnydd y sioe neu'r arddangosfa gofnodi cod adnabod unigol yr anifail yn ei gofrestr ac yn y ddogfen symud.
(4) Pan fydd yr anifail yn cyrraedd daliad o'r sioe neu'r arddangosfa, rhaid i'r ceidwad yn y daliad sy'n derbyn yr anifail gofnodi cod adnabod unigol yr anifail yn ei gofrestr.
8.—(1) Pan symudir anifail o farchnad, ar wahân i sioe neu arddangosfa, rhaid i weithredwr y farchnad gofnodi'r wybodaeth ganlynol yn y gofrestr yn y farchnad ac yn y ddogfen symud—
(a)y llythrennau “UK”a nod y ddiadell neu nod yr eifre ar gyfer y ddiadell neu'r eifre lle cafodd yr anifail ei eni neu ei fewnforio, yn achos anifail a anfonwyd i'r farchnad o'r daliad geni neu'r daliad lle cafodd ei fewnforio;
(b)y llythrennau “UK”neu'r llythyren “S”, fel y rhoddwyd ar y tag adnabod, a nod y ddiadell neu nod yr eifre ar gyfer y ddiadell neu'r eifre yr anfonwyd yr anifail ohoni i'r farchnad, yn achos anifail a anfonwyd i'r farchnad o'r daliad adnabod; neu
(c)y cod ar y tag symud a roddwyd ar yr anifail gan y ceidwad a'i hanfonodd i'r farchnad neu god adnabod unigol yr anifail os gwnaeth y ceidwad hwnnw gofnodi ei god adnabod unigol, yn lle rhoi tag symud ar yr anifail, yn achos anifail a anfonwyd i'r farchnad o unrhyw ddaliad arall.
(2) Pan fydd anifail yn cyrraedd daliad o'r farchnad, mae'n rhaid i'r ceidwad yn y daliad sy'n derbyn yr anifail gofnodi'r wybodaeth y cyfeiriwyd ati yn is—baragraff (1) yn ei gofrestr.
(3) Pan symudir anifail o farchnad i sioe neu arddangosfa, mae paragraff 7 yn gymwys.
9.—(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys o ran symud anifail o ddaliad—
(a)i dir comin; neu
(b)at ddibenion dipio neu gneifio, ar wahân i fynd i sioe ar gyfer cystadleuaeth cneifio,
a'i ddychwelyd yn syth i'r daliad gwreiddiol.
(2) Yn achos anifail a symudir o'r daliad geni neu'r daliad mewnforio i dir comin neu ar gyfer dipio neu gneifio, mae'n rhaid i'r ceidwad gofnodi'r llythrennau “UK” a nod y ddiadell neu nod yr eifre ar gyfer y ddiadell neu'r eifre eni neu fewnforio yn—
(a)ei gofrestr pan fydd yr anifail yn gadael y daliad a phan fydd yn dychwelyd;
(b)y ddogfen symud sy'n mynd gyda'r anifail pan fydd yn gadael y daliad hwnnw; ac
(c)y ddogfen symud sy'n mynd gyda'r anifail pan fydd yn dychwelyd i'r daliad hwnnw.
(3) Yn achos anifail a symudir o'r daliad adnabod i dir comin neu ar gyfer dipio neu gneifio, rhaid i'r ceidwad gofnodi'r wybodaeth ym mharagraffau 5(1)(a) a 5(1)(b) yn—
(a)ei gofrestr pan fydd yr anifail yn gadael y daliad a phan fydd yn dychwelyd;
(b)y ddogfen symud sy'n mynd gyda'r anifail pan fydd yn gadael y daliad adnabod; ac
(c)y ddogfen symud sy'n mynd gyda'r anifail pan fydd yn dychwelyd i'r daliad adnabod.
(4) Yn ddarostyngedig i is—baragraff (5), yn achos anifail a symudir o unrhyw ddaliad arall i dir comin neu ar gyfer dipio neu gneifio, mae'n rhaid i'r ceidwad—
(a)rhoi tag symud ar yr anifail pan fydd yn gadael y daliad;
(b)cofnodi cod y tag symud yn ei gofrestr pan fydd yr anifail yn gadael y daliad a phan fydd yn dychwelyd;
(c)cofnodi cod y tag symud yn y ddogfen symud sy'n mynd gyda'r anifail pan fydd yn gadael y daliad; ac
(ch)cofnodi cod y tag symud yn y ddogfen symud sy'n mynd gyda'r anifail pan fydd yn dychwelyd o dir comin neu dipio neu gneifio i'r daliad gwreiddiol.
(5) Nid oes raid i'r ceidwad roi tag symud ar yr anifail yn unol ag is—baragraff (4), cyn belled â'i fod yn cofnodi cod adnabod unigol yr anifail yn ei gofrestr ac yn y dogfennau symud, yn lle cod y tag symud.
(6) At bwrpas y paragraff hwn—
(a)ystyr “tir comin”(“common land”) yw tir lle mae gan y ceidwad hawl comin cofrestredig;
(b)ystyr “hawl comin cofrestredig”(“registered right of common”) yw hawl comin sydd wedi'i gofrestru o dan Ddeddf Cofrestru Tir Comin 1965(1).
10.—(1) Pan fydd ceidwad yn symud anifail o'r daliad geni neu'r daliad mewnforio i dir pori dros dro ac yn dychwelyd yr anifail hwnnw o dir pori dros dro yn uniongyrchol i'r daliad geni neu'r daliad mewnforio, mae'n rhaid iddo gofnodi'r llythrennau “UK”a nod y ddiadell neu nod yr eifre ar gyfer y ddiadell neu'r eifre eni neu fewnforio yn—
(a)ei gofrestr pan fydd yr anifail yn gadael y daliad geni neu'r daliad mewnforio a phan fydd yn dychwelyd;
(b)yn y ddogfen symud sy'n mynd gyda'r anifail pan fydd yn symud i dir pori dros dro; ac
(c)yn y ddogfen symud sy'n mynd gyda'r anifail pan fydd yn dychwelyd o dir pori dros dro i'r daliad geni neu ddaliad mewnforio, oni bai y gofelir am yr anifail gan geidwad gwahanol yn y tir pori dros dro, os felly mae'n rhaid i'r ceidwad hwnnw lenwi dogfen symud yn unol ag is—baragraff (3)(b).
(2) Yn achos anifail sy'n cael ei symud i dir pori dros dro o'r daliad adnabod, rhaid i'r ceidwad gofnodi'r llythyren “S” neu'r llythrennau “UK”, fel y rhoddwyd ar y tag adnabod, a nod y ddiadell neu nod yr eifre ar gyfer y ddiadell neu'r eifre y mae'r anifail yn ei adael i fynd i dir pori dros dro, yn lle'r wybodaeth yn is—baragraff (1).
(3) Yn ogystal â gofynion is—baragraffau (1) a (2), os gofelir am yr anifail gan geidwad gwahanol ar dir pori dros dro, rhaid i'r ceidwad hwnnw—
(a)cofnodi'r llythrennau “UK”a nod y ddiadell neu nod yr eifre ar gyfer y ddiadell neu'r eifre lle ganwyd neu lle mewnforiwyd yr anifail yn ei gofrestr pan fydd yr anifail yn cyrraedd yno a phan fydd yn gadael, neu yn achos anifail a anfonwyd i dir pori dros dro o'r daliad adnabod, cofnodi'r wybodaeth sydd yn is—baragraff (2) yn ei gofrestr; a
(b)llenwi'r ddogfen symud gyda'r wybodaeth hon pan fydd yr anifail yn gadael tir pori dros dro i ddychwelyd i'r daliad geni neu'r daliad mewnforio.
11.—(1) Yn ddarostyngedig i is—baragraff (2), pan fydd ceidwad yn symud anifail o unrhyw ddaliad (ar wahân i'r daliad geni, daliad mewnforio neu ddaliad adnabod) i dir pori dros dro ac yn dychwelyd yr anifail hwnnw o dir pori dros dro yn uniongyrchol i'r daliad, rhaid iddo—
(a)rhoi tag symud ar yr anifail hwnnw pan fydd yn gadael y daliad;
(b)cofnodi cod y tag symud yn ei gofrestr pan fydd yr anifail yn gadael a phan fydd yn dychwelyd;
(c)cofnodi cod y tag symud yn y ddogfen symud sy'n mynd gyda'r anifail pan fydd yn gadael y daliad; ac
(ch)cofnodi cod y tag symud yn y ddogfen symud sy'n mynd gyda'r anifail pan fydd yn dychwelyd o dir pori dros dro i'r daliad, oni bai y gofelir am yr anifail gan geidwad gwahanol yn y tir pori dros dro, os felly mae'n rhaid i'r ceidwad hwnnw lenwi'r ddogfen symud yn unol ag is—baragraff 3(b).
(2) Nid oes raid i'r ceidwad roi tag symud ar anifail yn unol ag is—baragraff (1)(a), cyn belled â'i fod yn cofnodi cod adnabod unigol yr anifail yn y gofrestr ac yn y dogfennau symud yn lle cod y tag symud.
(3) Yn ychwanegol at ofynion is—baragraffau (1) a (2), os gofelir am yr anifail gan geidwad gwahanol ar dir pori dros dro, mae'n rhaid i'r ceidwad hwnnw—
(a)cofnodi yn ei gofrestr, god y tag symud sydd wedi ei roi gan y ceidwad a anfonodd yr anifail i dir pori dros dro pan fydd yr anifail yn cyrraedd a phan fydd yn gadael, neu, y cod adnabod unigol, os gwnaeth y ceidwad a anfonodd yr anifail gofnodi'r cod hwn yn ei gofrestr yn lle rhoi tag symud ar yr anifail; a
(b)llenwi'r ddogfen symud gyda'r un wybodaeth pan fydd yr anifail yn gadael y tir pori dros dro i fynd yn ôl i'r daliad gwreiddiol.
12. Pan fydd anifail yn cael ei—
(a)symud o ddaliad i glinig milfeddyg; a
(b)ei ddychwelyd yn uniongyrchol i'r daliad hwnnw o glinig y milfeddyg,
mae'n rhaid i'r ceidwad lenwi ei gofrestr gyda'r wybodaeth sy'n ofynnol gan Erthygl 5 o Reoliad y Cyngor pan fydd yr anifail yn gadael y daliad a hefyd pan fydd yn cyrraedd yn ôl i'r daliad.
13.—(1) Pan fydd mangre o dan gyfyngiadau symud, yn unol â Gorchymyn Rheoli Clefydau (Cymru) 2003, ac mae hwrdd yn cael ei symud o'r fangre honno i farchnad yn ystod y cyfnod gwahardd symud o dan yr eithrio ym mharagraff 12 o Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwnnw, mae'n rhaid i'r ceidwad yn y fangre honno gofnodi cod adnabod unigol yr hwrdd hwnnw yn ei gofrestr ac yn y ddogfen symud.
(2) Pan fydd yr hwrdd yn cyrraedd y farchnad, mae'n rhaid i weithredwr y farchnad gofnodi cod adnabod unigol yr hwrdd yn ei gofrestr.
(3) Pan symudir yr hwrdd o'r farchnad, mae'n rhaid i weithredwr y farchnad gofnodi cod adnabod unigol yr hwrdd yn ei gofrestr ac yn y ddogfen symud.
(4) Pan fydd yr hwrdd yn cyrraedd y fangre y cafodd ei draddodi iddi o'r farchnad, mae'n rhaid i'r ceidwad yn y fangre honno gofnodi Rhif adnabod unigol yr hwrdd yn ei gofrestr pan fydd yr hwrdd yn cyrraedd y fangre honno.
(5) Os caiff hwrdd ei ddychwelyd i'r fangre wreiddiol o'r farchnad yn unol â darpariaethau paragraff 6 o Atodlen 2 i Orchymyn Rheoli Clefydau (Cymru) 2003, mae'n rhaid i'r ceidwad yn y fangre wreiddiol gofnodi cod adnabod unigol yr hwrdd yn ei gofrestr.
14. Pan symudir hwrdd i fangre at ddibenion bridio yn unol â'r esemptiad ym mharagraff 7 o Atodlen 2 i'r Gorchymyn Rheoli Clefydau (Cymru) 2003, rhaid i'r ceidwad yn y fangre honno gofnodi cod adnabod unigol yr hwrdd yn ei gofrestr.
15. Pan anfonir gafr o un fangre i fangre arall ar gyfer bridio, ac yntau wedi ei gadw ar wahân ar y fangre y mae'n ei gadael yn unol â pharagraff 8 o Atodlen 2 i'r Gorchymyn Rheoli Clefydau (Cymru) 2003 er mwyn osgoi sbarduno cyfnod segur yn y fangre y bydd yn ei chyrraedd—
(a)rhaid i'r ceidwad yn y fangre y bydd yr afr yn ei gadael gofnodi cod adnabod unigol yr afr yn ei gofrestr a'r ddogfen symud pan fydd yr afr yn gadael y fangre;
(b)rhaid i'r ceidwad yn y fangre y bydd yr afr yn ei chyrraedd gofnodi cod adnabod unigol yr afr yn ei gofrestr;
(c)pan fydd yr afr yn dychwelyd i'r fangre wreiddiol, rhaid i'r ceidwad yn y fangre lle'r anfonwyd yr afr ar gyfer bridio gofnodi'r cod adnabod unigol yn ei gofrestr a'r ddogfen symud; ac
(ch)pan fydd yr anifail yn dychwelyd i'r fangre wreiddiol rhaid i'r ceidwad yn y fangre honno gofnodi'r cod adnabod unigol yn ei gofrestr.
16.—(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys ar gyfer traddodi anifail ar gyfer masnach o fewn y Gymuned trwy ganolfan ymgynnull.
(2) Os traddodir anifail i ddaliad gyda'r bwriad o'i anfon ymlaen i ganolfan ymgynnull at ddibenion masnach o fewn y Gymuned, mae'n rhaid i'r ceidwad yn y daliad hwnnw gofnodi cod adnabod unigol yr anifail yn ei gofrestr.
(3) Pan fydd yr anifail yn gadael y daliad i fynd i'r ganolfan ymgynnull, rhaid i'r ceidwad gofnodi Rhif adnabod unigol yr anifail yn ei gofrestr ac yn y ddogfen symud.
(4) Pan fydd yr anifail yn cyrraedd y ganolfan ymgynnull, rhaid i'r ceidwad yn y ganolfan ymgynnull gofnodi cod adnabod unigol yr anifail yn ei gofrestr.
(5) Yn ddarostyngedig i is—baragraff (6), pan symudir yr anifail o'r ganolfan ymgynnull i gael ei draddodi'n uniongyrchol i Aelod—wladwriaeth arall, mae'n rhaid i'r ceidwad yn y ganolfan ymgynnull—
(a)rhoi ail dag clust neu dransbonder electronig ar yr anifail gyda'r cod adnabod unigol; a
(b)cofnodi'r cod adnabod unigol yn ei gofrestr ac yn y ddogfen symud.
(6) Nid yw is—baragraff (5) yn gymwys os yw'r ceidwad—
(a)yn rhoi tag X ar yr anifail cyn iddo adael y ganolfan ymgynnull;
(b)yn croesgyfeirio yn ei gofrestr, god y tag X gyda chod adnabod unigol yr anifail; ac
(c)yn cofnodi cod y tag X yn y ddogfen symud.
(7) Mae'n rhaid i dransbonder electronig sydd wedi ei roi neu ei osod ar anifail o dan y paragraff hwn gydymffurfio gyda gofynion Adran A.6 o'r Atodiad i Reoliad y Cyngor.
17.—(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys o ran traddodi anifail i Aelod Wlad arall ac eithrio trwy ganolfan ymgynnull.
(2) Os caiff anifail ei draddodi i ddaliad, ac eithrio canolfan ymgynnull, gyda'r bwriad o'i draddodi i Aelod—wladwriaeth arall, mae'n rhaid i'r ceidwad yn y daliad hwnnw gofnodi cod adnabod unigol yr anifail yn ei gofrestr.
(3) Yn ddarostyngedig i is—baragraff (4), pan symudir anifail o'r daliad hwnnw yn uniongyrchol i Aelod—wladwriaeth arall, mae'n rhaid i'r ceidwad—
(a)rhoi ail dag clust neu dransbonder electronig ar yr anifail gyda'r cod adnabod unigol; a
(b)cofnodi'r cod adnabod unigol yn ei gofrestr ac yn y ddogfen symud.
(4) Nid yw is—baragraff (3) yn gymwys os yw'r ceidwad—
(a)yn rhoi tag X ar yr anifail cyn iddo adael y ganolfan ymgynnull;
(b)yn croesgyfeirio yn ei gofrestr, god y tag X gyda chod adnabod unigol yr anifail; ac
(c)cofnodi cod y tag X yn y ddogfen symud.
(5) Mae'n rhaid i dransbonder electronig sydd wedi ei roi neu ei osod ar anifail o dan y paragraff hwn gydymffurfio â gofynion Adran A.4 o'r Atodiad i Reoliad y Cyngor.