ATODLEN 1SYSTEM SY'N CYDYMFFURFIO AG ADRAN A.5 O'R ATODIAD I REOLIAD Y CYNGOR
RHAN 2Gofynion arbennig ar gyfer symudiadau penodol
Symud o farchnad i ddaliad arall
8.
(1)
Pan symudir anifail o farchnad, ar wahân i sioe neu arddangosfa, rhaid i weithredwr y farchnad gofnodi'r wybodaeth ganlynol yn y gofrestr yn y farchnad ac yn y ddogfen symud—
(a)
y llythrennau “UK”a nod y ddiadell neu nod yr eifre ar gyfer y ddiadell neu'r eifre lle cafodd yr anifail ei eni neu ei fewnforio, yn achos anifail a anfonwyd i'r farchnad o'r daliad geni neu'r daliad lle cafodd ei fewnforio;
(b)
y llythrennau “UK”neu'r llythyren “S”, fel y rhoddwyd ar y tag adnabod, a nod y ddiadell neu nod yr eifre ar gyfer y ddiadell neu'r eifre yr anfonwyd yr anifail ohoni i'r farchnad, yn achos anifail a anfonwyd i'r farchnad o'r daliad adnabod; neu
(c)
y cod ar y tag symud a roddwyd ar yr anifail gan y ceidwad a'i hanfonodd i'r farchnad neu god adnabod unigol yr anifail os gwnaeth y ceidwad hwnnw gofnodi ei god adnabod unigol, yn lle rhoi tag symud ar yr anifail, yn achos anifail a anfonwyd i'r farchnad o unrhyw ddaliad arall.
(2)
Pan fydd anifail yn cyrraedd daliad o'r farchnad, mae'n rhaid i'r ceidwad yn y daliad sy'n derbyn yr anifail gofnodi'r wybodaeth y cyfeiriwyd ati yn is—baragraff (1) yn ei gofrestr.
(3)
Pan symudir anifail o farchnad i sioe neu arddangosfa, mae paragraff 7 yn gymwys.