ATODLEN 1SYSTEM SY'N CYDYMFFURFIO AG ADRAN A.5 O'R ATODIAD I REOLIAD Y CYNGOR
RHAN 1Gofynion olrhain cyffredinol ar gyfer symud anifeiliaid yng Nghymru
System olrhain arall ar gyfer anifeiliaid
3.
(1)
Pan fydd anifail yn cael ei symud o un daliad i ddaliad arall yn y Deyrnas Unedig, caniateir i'r ceidwad gofnodi cod adnabod unigol yr anifail yn y gofrestr yn y daliad hwnnw ac yn y ddogfen symud fel dewis arall yn lle rhoi tag symud ar yr anifail.
(2)
Yn yr achos hwn, pan symudir anifail i ddaliad, mae'n rhaid i'r ceidwad yn y daliad sy'n derbyn yr anifail gofnodi cod adnabod unigol yr anifail yn ei gofrestr.