ATODLEN 1SYSTEM SY'N CYDYMFFURFIO AG ADRAN A.5 O'R ATODIAD I REOLIAD Y CYNGOR

RHAN 1Gofynion olrhain cyffredinol ar gyfer symud anifeiliaid yng Nghymru

Tagiau symud

2.

(1)

Pan symudir anifail o ddaliad (ar wahân i'r fferm eni neu ddaliad mewnforio) i ddaliad arall yn y Deyrnas Unedig, mae'n rhaid i'r ceidwad roi tag symud ar yr anifail a chofnodi cod y tag symud yn ei gofrestr ac yn y ddogfen symud.

(2)

Pan fydd anifail sydd wedi'i nodi gyda thag symud yn unol ag is—baragraff (1) yn cael ei symud i ddaliad arall, mae'n rhaid i'r ceidwad yn y daliad sy'n ei dderbyn gofnodi cod y tag symud yn ei gofrestr.

(3)

Os yw anifail eisoes wedi'i farcio gyda 3 tag clust a roddwyd o dan—

(a)

Rheoliad y Cyngor;

(b)

y Gorchymyn hwn neu unrhyw ddarpariaethau sy'n rhoi grym i Reoliad y Cyngor yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon;

(c)

unrhyw un o'r Gorchmynion blaenorol; neu

(ch)

Cyfarwyddeb y Cyngor 92/102/EEC, yn achos anifail a farciwyd mewn Aelod—wladwriaeth arall yn unol â'r Gyfarwyddeb honno,

ni chaiff y ceidwad roi tag symud ar yr anifail ond yn hytrach rhaid iddo gydymffurfio gyda pharagraff 3.

(4)

Os caiff anifail sydd wedi'i nodi gyda thag clust a roddwyd o dan y Gorchymyn hwn, Rheoliad y Cyngor neu unrhyw un o'r Gorchmynion blaenorol sy'n ymwneud â diadell neu eifre, ei symud yn ôl i'r ddiadell neu'r eifre honno, ni chaiff y ceidwad roi tag symud ar yr anifail pan fydd yn cael ei symud eto o'r daliad lle cedwir y ddiadell neu'r eifre honno ond yn hytrach bydd yn rhaid iddo gofnodi yn y gofrestr ac yn y ddogfen symud y Rhif ar y tag clust sy'n berthnasol i'r ddiadell neu'r eifre honno.