ATODLEN 1SYSTEM SY'N CYDYMFFURFIO AG ADRAN A.5 O'R ATODIAD I REOLIAD Y CYNGOR

RHAN 2Gofynion arbennig ar gyfer symudiadau penodol

Symud i Aelod Wlad arall (ac eithrio trwy ganolfan ymgynnull)

17.

(1)

Mae'r paragraff hwn yn gymwys o ran traddodi anifail i Aelod Wlad arall ac eithrio trwy ganolfan ymgynnull.

(2)

Os caiff anifail ei draddodi i ddaliad, ac eithrio canolfan ymgynnull, gyda'r bwriad o'i draddodi i Aelod—wladwriaeth arall, mae'n rhaid i'r ceidwad yn y daliad hwnnw gofnodi cod adnabod unigol yr anifail yn ei gofrestr.

(3)

Yn ddarostyngedig i is—baragraff (4), pan symudir anifail o'r daliad hwnnw yn uniongyrchol i Aelod—wladwriaeth arall, mae'n rhaid i'r ceidwad—

(a)

rhoi ail dag clust neu dransbonder electronig ar yr anifail gyda'r cod adnabod unigol; a

(b)

cofnodi'r cod adnabod unigol yn ei gofrestr ac yn y ddogfen symud.

(4)

Nid yw is—baragraff (3) yn gymwys os yw'r ceidwad—

(a)

yn rhoi tag X ar yr anifail cyn iddo adael y ganolfan ymgynnull;

(b)

yn croesgyfeirio yn ei gofrestr, god y tag X gyda chod adnabod unigol yr anifail; ac

(c)

cofnodi cod y tag X yn y ddogfen symud.

(5)

Mae'n rhaid i dransbonder electronig sydd wedi ei roi neu ei osod ar anifail o dan y paragraff hwn gydymffurfio â gofynion Adran A.4 o'r Atodiad i Reoliad y Cyngor.