ATODLEN 1SYSTEM SY'N CYDYMFFURFIO AG ADRAN A.5 O'R ATODIAD I REOLIAD Y CYNGOR

RHAN 2Gofynion arbennig ar gyfer symudiadau penodol

Symud i Aelod Wlad arall trwy ganolfan ymgynnull

16.

(1)

Mae'r paragraff hwn yn gymwys ar gyfer traddodi anifail ar gyfer masnach o fewn y Gymuned trwy ganolfan ymgynnull.

(2)

Os traddodir anifail i ddaliad gyda'r bwriad o'i anfon ymlaen i ganolfan ymgynnull at ddibenion masnach o fewn y Gymuned, mae'n rhaid i'r ceidwad yn y daliad hwnnw gofnodi cod adnabod unigol yr anifail yn ei gofrestr.

(3)

Pan fydd yr anifail yn gadael y daliad i fynd i'r ganolfan ymgynnull, rhaid i'r ceidwad gofnodi Rhif adnabod unigol yr anifail yn ei gofrestr ac yn y ddogfen symud.

(4)

Pan fydd yr anifail yn cyrraedd y ganolfan ymgynnull, rhaid i'r ceidwad yn y ganolfan ymgynnull gofnodi cod adnabod unigol yr anifail yn ei gofrestr.

(5)

Yn ddarostyngedig i is—baragraff (6), pan symudir yr anifail o'r ganolfan ymgynnull i gael ei draddodi'n uniongyrchol i Aelod—wladwriaeth arall, mae'n rhaid i'r ceidwad yn y ganolfan ymgynnull—

(a)

rhoi ail dag clust neu dransbonder electronig ar yr anifail gyda'r cod adnabod unigol; a

(b)

cofnodi'r cod adnabod unigol yn ei gofrestr ac yn y ddogfen symud.

(6)

Nid yw is—baragraff (5) yn gymwys os yw'r ceidwad—

(a)

yn rhoi tag X ar yr anifail cyn iddo adael y ganolfan ymgynnull;

(b)

yn croesgyfeirio yn ei gofrestr, god y tag X gyda chod adnabod unigol yr anifail; ac

(c)

yn cofnodi cod y tag X yn y ddogfen symud.

(7)

Mae'n rhaid i dransbonder electronig sydd wedi ei roi neu ei osod ar anifail o dan y paragraff hwn gydymffurfio gyda gofynion Adran A.6 o'r Atodiad i Reoliad y Cyngor.