ATODLEN 1SYSTEM SY'N CYDYMFFURFIO AG ADRAN A.5 O'R ATODIAD I REOLIAD Y CYNGOR

RHAN 2Gofynion arbennig ar gyfer symudiadau penodol

Symud yn ôl ac ymlaen rhwng clinig milfeddyg

12.

Pan fydd anifail yn cael ei—

(a)

symud o ddaliad i glinig milfeddyg; a

(b)

ei ddychwelyd yn uniongyrchol i'r daliad hwnnw o glinig y milfeddyg,

mae'n rhaid i'r ceidwad lenwi ei gofrestr gyda'r wybodaeth sy'n ofynnol gan Erthygl 5 o Reoliad y Cyngor pan fydd yr anifail yn gadael y daliad a hefyd pan fydd yn cyrraedd yn ôl i'r daliad.