xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
35.—(1) Bydd y Gorchymyn hwn yn cael ei orfodi gan yr awdurdod lleol.
(2) Gall Cynulliad Cenedlaethol Cymru roi cyfarwyddyd, mewn perthynas ag achosion o ddisgrifiad arbennig neu achos arbennig, y bydd unrhyw ddyletswydd a roddir ar awdurdod lleol o dan baragraff (1) yn cael ei chyflawni gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac nid gan yr awdurdod lleol.
36.—(1) Diwygir Gorchymyn Rheoli Clefydau (Cymru) 2003(1)yn unol â pharagraffau (2) i (4).
(2) Mae Erthygl 9 wedi'i ddileu.
(3) Ym mharagraff 12 o Atodlen 1, mae is—baragraff (2)(c) wedi'i ddileu.
(4) Yn Atodlen 2—
(a)mae paragraff 6(2)(c) wedi'i ddileu;
(b)mae paragraff 7(2)(b) wedi'i ddileu; ac
(c)mae paragraff 8(2)(a) wedi'i ddileu.
37.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3), mae'r canlynol wedi'u dirymu—
(a)Gorchymyn Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2002(2);
(b)Gorchymyn Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) (Diwygio) 2003(3); ac
(c)Gorchymyn Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) (Diwygio Rhif 2) 2003 (4).
(2) Bydd darpariaethau Gorchymyn Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2002 sy'n ymwneud â nodi anifeiliaid ar y fferm eni yn parhau i fod yn gymwys o ran unrhyw anifail a anwyd ar neu cyn 9 Gorffennaf 2005.
(3) Bydd darpariaethau Gorchymyn Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2002 sy'n ymwneud â nodi anifeiliaid sydd wedi eu mewnforio i ddaliad o'r tu allan i'r Undeb Ewropeaidd yn parhau i fod yn gymwys o ran unrhyw anifail a fewnforiwyd o'r tu allan i'r Undeb Ewropeaidd ar neu cyn 9 Gorffennaf 2005.