RHAN 2Adnabod anifeiliaid
Adnabod anifeiliaid a anwyd ar ôl 9 Gorffennaf 20056.
(1)
Mae'n rhaid i unrhyw geidwad gydymffurfio ag Erthygl 4(1)(paragraff cyntaf) ac Erthygl 4(2)(a) a (b) o Reoliad y Cyngor a'r erthygl hon.
(2)
At ddibenion Erthygl 4(1) o Reoliad y Cyngor, y terfynau amser ar gyfer adnabod anifail yw—
(a)
9 mis o'r dyddiad geni, yn achos anifail a gedwir mewn amodau ffermio llai dwys neu ar faes; neu
(b)
6 mis o'r dyddiad geni, yn achos unrhyw anifail arall.
(3)
Y cod adnabod ar gyfer y dull cyntaf o adnabod at ddibenion Adran A.2 o'r Atodiad i Reoliad y Cyngor yw'r wybodaeth ganlynol, wedi ei hargraffu yn y drefn ganlynol—
(a)
y llythrennau “UK”;
(b)
nod y ddiadell neu nod yr eifre ar gyfer y ddiadell neu'r eifre lle ganwyd yr anifail; ac
(c)
Rhif unigryw.