RHAN 9Amrywiol

Dirymiadau a darpariaethau trosiannol37.

(1)

Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3), mae'r canlynol wedi'u dirymu—

(a)

Gorchymyn Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 200220;

(b)

Gorchymyn Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) (Diwygio) 200321; ac

(c)

Gorchymyn Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) (Diwygio Rhif 2) 2003 22.

(2)

Bydd darpariaethau Gorchymyn Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2002 sy'n ymwneud â nodi anifeiliaid ar y fferm eni yn parhau i fod yn gymwys o ran unrhyw anifail a anwyd ar neu cyn 9 Gorffennaf 2005.

(3)

Bydd darpariaethau Gorchymyn Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2002 sy'n ymwneud â nodi anifeiliaid sydd wedi eu mewnforio i ddaliad o'r tu allan i'r Undeb Ewropeaidd yn parhau i fod yn gymwys o ran unrhyw anifail a fewnforiwyd o'r tu allan i'r Undeb Ewropeaidd ar neu cyn 9 Gorffennaf 2005.