RHAN 8Anifeiliaid a ddaethpwyd i mewn i Gymru
Symud anifeiliaid yng Nghymru34.
(1)
Mae Atodlen 1 yn gymwys o ran symud anifail gydag un tag sydd wedi dod i mewn i Gymru o Loegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon.
(2)
At bwrpas yr erthygl hon, “anifail gydag un tag” (“single tagged animal”) yw anifail a anwyd ar ôl 9 Gorffennaf 2005 ac a adnabuwyd yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon gyda dim ond y dull cyntaf o adnabod yn unol ag Erthygl 4(2)(a) o Reoliad y Cyngor ac unrhyw ddarpariaethau sy'n rhoi grym i'r Erthygl honno yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon.