RHAN 7Marchnadoedd
Marchnadoedd31.
(1)
Mae'n rhaid i weithredwr marchnad sicrhau bod yr holl anifeiliaid yn cael eu rhannu'n lotiau o un neu fwy o anifeiliaid yn syth ar ôl iddynt gyrraedd y farchnad a bod Rhif lot yn cael ei ddyrannu i bob lot.
(2)
Ni chaiff unrhyw berson brynu anifail mewn marchnad oni bai ei fod yn prynu'r holl anifeiliaid eraill yn y lot y mae'r anifail yn perthyn iddo ac yn symud y lot cyfan o'r farchnad i'r un daliad.
(3)
Ni chaiff unrhyw berson werthu anifail mewn marchnad oni bai ei fod yn gwerthu'r holl anifeiliaid eraill yn y lot i'r un prynwr.