RHAN 6Tagiau clust

Addasu tagiau clust etc26.

Ni chaiff unrhyw berson addasu, dileu neu ddifwyno'r wybodaeth ar unrhyw dag clust, tatŵ neu dransbonder electronig sydd wedi ei roi ar anifail o dan—

(a)

Rheoliad y Cyngor;

(b)

y Gorchymyn hwn neu unrhyw ddarpariaethau sy'n rhoi grym i Reoliad y Cyngor yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon;

(c)

unrhyw un o'r Gorchmynion blaenorol; neu

(ch)

Cyfarwyddeb y Cyngor 92/102/EEC, yn achos anifail a farciwyd mewn Aelod Wlad arall yn unol â'r Gyfarwyddeb honno.