RHAN 6Tagiau clust
Rhoi tagiau clust newydd yn lle rhai a gollwyd mewn marchnadoedd25.
(1)
Nid yw'r gofynion yn erthyglau 23 a 24 i roi tagiau clust a thatŵs newydd yn lle'r hen rai yn gymwys i weithredwr marchnad neu weithredwr lladd—dy.
(2)
Os caiff tag clust neu datŵ ei dynnu neu ei golli neu os sylwir ei fod yn annarllenadwy tra bod anifail ar y ffordd i'r farchnad neu yn y farchnad, mae'n rhaid i'r person sy'n prynu'r anifail yn y farchnad roi un newydd yn ei le yn unol â'r darpariaethau canlynol cyn gynted ag y bo modd ac ym mhob achos cyn i'r anifail gael ei symud o'i ddaliad—
(a)
yn achos tag symud sy'n cael ei dynnu neu ei golli neu sydd wedi mynd yn annarllenadwy, mae'n rhaid iddo roi tag newydd yr union yr un fath yn ei le, oni bai, ar ôl cymryd yr holl gamau rhesymol nad yw'n gallu deall y Rhif ar y tag gwreiddiol;
(b)
yn achos tag adnabod sy'n cael ei dynnu neu ei golli neu sydd wedi mynd yn annarllenadwy, mae'n rhaid iddo roi tag newydd yr union yr un fath yn ei le neu dag R;
(c)
yn achos tag clust a roddwyd ar anifail o dan unrhyw un o'r Gorchmynion blaenorol, ar wahân i farc S, sy'n cael ei dynnu neu ei golli neu sydd wedi mynd yn annarllenadwy, rhaid iddo roi tag newydd yr union yr un fath yn ei le neu dag R; neu
(ch)
yn achos tatŵ a roddwyd ar anifail o dan unrhyw un o'r Gorchmynion blaenorol sy'n cael ei dynnu neu sydd wedi mynd yn annarllenadwy, mae'n rhaid iddo roi tag R neu datŵ R ar yr anifail.