RHAN 4Dogfennau symud
Cyflenwi dogfennau symud19.
(1)
Yn achos anifail a symudwyd i ddaliad arall—
(a)
ar ôl i'r anifail gyrraedd y daliad arall hwnnw, mae'n rhaid i'r cludwr roi'r ddogfen symud i'r ceidwad yn y daliad hwnnw; a
(b)
mae'n rhaid i'r ceidwad yn y daliad hwnnw anfon copi o'r ddogfen symud i'r awdurdod lleol o fewn 3 diwrnod ar ôl i'r anifail gyrraedd y daliad.
(2)
Yn achos anifail a symudwyd o ddaliad ar gyfer ei draddodi tu allan i'r Deyrnas Unedig, mae'n rhaid i geidwad y daliad hwnnw anfon copi o'r ddogfen symud i'r awdurdod lleol o fewn 3 diwrnod ar ôl i'r anifail adael y daliad.