RHAN 4Dogfennau symud

Dogfen symud17.

(1)

Mae'n rhaid i'r ceidwad gydymffurfio ag Erthygl 6(1) o Reoliad y Cyngor a llenwi'r ddogfen symud yn unol â'r erthygl hon.

(2)

Mae unrhyw geidwad sy'n peidio â chydymffurfio ag Erthygl 6(3) o Reoliad y Cyngor yn euog o drosedd yn erbyn Deddf Iechyd Anifeiliaid 1981.

(3)

Yn ddarostyngedig i baragraff (4), mae'n rhaid i'r ddogfen symud—

(a)

bod ar y ffurf sydd wedi ei osod yn Atodlen 3;

(b)

cael ei llenwi'n llawn gan y ceidwad priodol fel y nodwyd yn y ffurflen honno; ac

(c)

yn ogystal â chynnwys yr wybodaeth sy'n ofynnol o dan Adran C o'r Atodiad i Reoliad y Cyngor, mae'n rhaid i'r ddogfen gael ei llenwi gan y ceidwad gyda'r wybodaeth yn Atodlen 3, gan gynnwys—

(i)

yn achos anifail sydd wedi ei adnabod yn unol ag Erthyglau 4(2)(a) a 4(2)(b) o Reoliad y Cyngor, y cod ar y dull cyntaf o adnabod, ac os yw'n wahanol, y cod ar yr ail ddull o adnabod; neu

(ii)

yn achos unrhyw anifail arall, y manylion y mae'n rhaid eu cofnodi yn y ddogfen symud o dan Atodlen 1.

(4)

Gall gweithredwr y farchnad lenwi dogfen symud electronig ar ffurf wahanol i'r hyn sydd wedi ei nodi yn Atodlen 3, cyn belled â'i bod—

(a)

yn cynnwys yr wybodaeth yn Adran C o'r Atodiad i Reoliad y Cyngor a pharagraff (3)(c)(i) neu (3)(c)(ii) o'r erthygl hon; a'i bod

(b)

wedi ei hargraffu a'i llofnodi gan weithredwr y farchnad.

(5)

At bwrpas Erthygl 6(3) o Reoliad y Cyngor, y cyfnod lleiaf y caiff ceidwad y daliad fydd yn derbyn yr anifail gadw'r ddogfen symud yw 3 blynedd o ddyddiad symud anifail i ddaliad y ceidwad.