RHAN 3Cofrestri daliadau

Cofrestr y daliad

14.—(1Mae unrhyw geidwad, ar wahân i gludwr, sy'n methu â chydymffurfio ag Erthyglau 5(1), 5(3) a 5(5) o Reoliad y Cyngor ac, mewn perthynas â chofrestr, yn methu â llenwi a chadw'r gofrestr honno yn unol â'r erthygl hon, yn euog o drosedd yn erbyn Deddf Iechyd Anifeiliaid 1981(1).

(2Mae'n rhaid i unrhyw geidwad, ar wahân i gludwr, roi'r wybodaeth ganlynol ar y gofrestr pan symudir anifail yn ôl ac ymlaen o'i ddaliad, yn ogystal â'r wybodaeth sy'n ofynnol gan Adran B o'r Atodiad i Reoliad y Cyngor—

(a)nifer yr anifeiliaid a symudir; a naill ai

(b)yn achos anifail sydd wedi ei adnabod yn unol ag Erthyglau 4(2)(a) a 4(2)(b) o Reoliad y Cyngor, y cod ar y dull cyntaf o adnabod, ac os yw'n wahanol, y cod ar yr ail ddull o adnabod;

(c)yn achos anifail a symudwyd i'r daliad o Aelod—wladwriaeth arall ac sydd wedi ei nodi yn unol â Chyfarwyddeb y Cyngor 92/102/EEC, y cod ar y tag clust a roddwyd o dan y Gyfarwyddeb honno; neu

(ch)yn achos unrhyw anifail arall, y manylion sydd yn rhaid eu rhoi yn y gofrestr o dan Atodlen 1.

(3Yn ogystal â pharagraff (2), pan symudir anifail o un lleoliad i'r llall ar y daliad, os nad yw'r lleoliadau hynny'n gyfagos, mae'n rhaid i'r ceidwad gofnodi yn y gofrestr —

(a)disgrifiad o'r lleoliadau y symudwyd yr anifail iddynt ac oddi wrthynt;

(b)dyddiad y symud; ac

(c)nifer yr anifeiliaid a symudwyd.

(4At bwrpas Erthygl 5(3) o Reoliad y Cyngor, mae'n rhaid i'r gofrestr fod ar y ffurf a nodir yn Atodlen 2.

(5Mae'n rhaid i'r ceidwad lenwi'r gofrestr ar yr adegau canlynol—

(a)yn achos symud anifail i'w ddaliad neu o'i ddaliad, o fewn 36 awr i'r symud;

(b)yn achos symud anifail o un lleoliad i'r llall ar ei ddaliad, o fewn 36 awr i'r symud; ac

(c)yn achos rhoi tag clust neu ddyfais electronig newydd yn lle'r hen un, o fewn 36 awr i'w newid.

(6At bwrpas Erthygl 5(3) o Reoliad y Cyngor, y cyfnod y mae'n rhaid i'r gofrestr fod ar gael yw 6 mlynedd o ddiwedd y flwyddyn galendr pan wnaed y cofnod diwethaf.