RHAN 2Adnabod anifeiliaid

Rhoi dull newydd o adnabod gyda chod gwahanol yn lle'r hen un13.

(1)

Os bydd y dull cyntaf o adnabod anifail sydd ag un tag yn mynd yn annarllenadwy neu'n cael ei golli tra bod yr anifail yn dal i fod ar y daliad geni neu'r daliad y mewnforir yr anifail iddo ac nad yw'r ceidwad am unrhyw reswm arall yn gallu deall y cod gwreiddiol ar y dull adnabod, mae'n rhaid iddo roi tag clust newydd yn ei le sy'n cynnwys—

(a)

y llythrennau “UK”;

(b)

nod y ddiadell neu nod yr eifre ar gyfer y ddiadell neu'r eifre lle mae'r anifail pan roddir y tag clust;

(c)

Rhif unigryw; ac

(ch)

yn achos anifail a fewnforiwyd o drydydd gwledydd, y llythyren “F”.

(2)

Os gwelir bod y dull cyntaf o adnabod ar anifail sydd ag un tag yn annarllenadwy neu ei fod wedi ei golli ar unrhyw ddaliad arall ar wahân i'r daliad geni neu'r daliad y mewnforiwyd yr anifail iddo ac nad yw'r ceidwad yn gallu deall y cod gwreiddiol ar y dull adnabod, mae'n rhaid iddo ei gyfnewid gyda thag R.

(3)

At ddibenion yr erthygl hon, ystyr “anifail gydag un tag” (“single tagged animal”) yw anifail a anwyd ar ôl 9 Gorffennaf 2005 sydd â dim ond dull cyntaf o adnabod yn unol ag Erthygl 4(2)(a) o Reoliad y Cyngor.