RHAN 2Adnabod anifeiliaid

Tynnu dull adnabod neu roi un newydd yn ei le12.

(1)

Ni chaiff unrhyw berson dynnu neu roi un newydd yn lle'r dull gwreiddiol o adnabod anifail sy'n dod o Aelod—wladwriaeth arall yn groes i Erthygl 4(5) o Reoliad y Cyngor.

(2)

Ni chaiff unrhyw berson fynd yn groes neu fethu â chydymffurfio ag Erthygl 4(6)(paragraff cyntaf) o Reoliad y Cyngor.

(3)

Gall unrhyw berson a gyhuddir o fynd yn groes i Erthygl 4(5) neu 4(6) o Reoliad y Cyngor neu sy'n methu â chydymffurfio â'r Erthyglau hynny amddiffyn ei hun trwy brofi bod—

(a)

dull o adnabod wedi cael ei dynnu i atal poen neu ddioddefaint diangen i anifail; a

(b)

y rhoddwyd dull newydd o adnabod yn ei le gyda'r un cod ar yr anifail cyn gynted ag y bo'n bosibl.