RHAN 2Adnabod anifeiliaid
Adnabod anifeiliaid a fewnforir o drydydd gwledydd10.
(1)
Mae'n rhaid i geidwad gydymffurfio ag Erthygl 4(4) o Reoliad y Cyngor a'r erthygl hon.
(2)
At ddibenion Erthygl 4(4) (paragraff cyntaf) o Reoliad y Cyngor, y cyfnod ar gyfer adnabod anifail yw 14 o ddiwrnodau.
(3)
Y cod adnabod ar gyfer y dull cyntaf o adnabod at bwrpas Adran A.2 o'r Atodiad i Reoliad y Cyngor ar gyfer anifeiliaid a fewnforiwyd o drydydd gwledydd yw'r—
(a)
llythrennau “UK”;
(b)
nod y ddiadell neu nod yr eifre ar gyfer y ddiadell neu'r eifre lle cafodd yr anifail ei fewnforio;
(c)
Rhif unigryw; ac
(ch)
y llythyren “F”.