Gorchymyn y Gwasanaethau Tân ac Achub (Fframwaith Cenedlaethol) (Cymru) 2005
Enwi, dod i rym a chymhwyso1.
(1)
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn y Gwasanaethau Tân ac Achub (Fframwaith Cenedlaethol) (Cymru) 2005 a daw i rym ar 17 Mawrth 2005.
(2)
Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
Y Fframwaith Cenedlaethol2.
At ddibenion adran 21(6) o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004, bydd y Fframwaith Tân ac Achub a baratowyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru sy'n dwyn yr enw “Y Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer y Gwasanaeth Tân ac Achub (Cymru) 2005” a gyhoeddwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ym mis Mawrth 2005 yn cael effaith.
Mae adran 21 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 yn ei gwneud yn ofynnol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru baratoi Fframwaith Cenedlaethol Tân ac Achub, y mae'n rhaid iddo osod blaenoriaethau ac amcanion i awdurdodau tân ac achub a chaiff ddarparu canllawiau. Rhaid i'r awdurdodau tân ac achub roi sylw i'r Fframwaith wrth gyflawni eu swyddogaethau. Mae adran 21(6) o'r Ddeddf yn darparu bod y Fframwaith yn effeithiol ond yn unig pan roddir effaith iddo gan y Cynulliad drwy orchymyn. Mae erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn yn rhoi effaith i Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer y Gwasanaeth Tân ac Achub (Cymru) 2005. Gellir cael copïau o'r Fframwaith oddi wrth yr Adran Cyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd. Mae hefyd ar gael ar wefan y Cynulliad: http://www.tai.cymru.gov.uk/.